Skip to main content

Game Changers 2024

Diolch yn fawr am eich cyflwyniadau. Mae enwebiadau Newidwyr Gêm ar gau yn awr. Bydd ein Newidwyr Gêm yn cael eu datgelu’n ddiweddarach eleni, felly cadwch olwg ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

I nodi 30 mlynedd ers tynnu’r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf yn 1994, fe fyddwn yn dathlu 30 o bobl ysbrydoledig sydd wedi cyflawni pethau anhygoel ar draws y DU yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, gyda help arian y Loteri Genedlaethol.

Pob wythnos, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30m ar gyfer achosion arbennig ar hyd ac ar led y DU. Ynghudd ar draws y genedl mae miloedd o bobl sydd wedi defnyddio’r arian hwnnw i gyflwyno newid, ysbrydoliaeth a llawenydd dwfn i filoedd o bobl … ac rydym eisiau diolch iddynt am eu holl waith caled.

Bydd yr ymgyrch Newidwyr Gêm yn anrhydeddu 30 o unigolion nad ydynt mor gyffredin sydd wedi gwneud pethau anhygoel o fewn y celfyddydau, treftadaeth, chwaraeon a’r gymuned yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Pobl sydd wedi mynd i’r afael â’r materion sy’n cyfrif fwyaf, i wneud y DU yn decach, yn fwy cynhwysol ac wedi’i llenwi gyda chreadigrwydd a chyfleoedd. Pobl sy’n cael effaith ar bentrefi, trefi a dinasoedd led led y DU ac sy’n newid bywydau bob diwrnod.

Bydd ein Newidwyr Gêm yn cael eu dathlu mewn ffordd ysblennydd yr Hydref hwn, fe y byddwn yn nodi 30 mlynedd o effaith newid gêm y Loteri Genedlaethol ar y wlad.