Ffurflen Ganiatâd Newidiwr Gêm
Diolch yn fawr am enwebu Newidiwr Gêm. Ymgyrch yw’r Newidiwr Gêm i ganfod 30 o unigolion anhygoel sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol gydag arian y Loteri Genedlaethol dros y 30 mlynedd diwethaf ac fe’i cydlynir gan Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (NLPU). Bydd enwebiadau unigol yn cael eu hadolygu gan ein tîm ymchwil a fydd wedi hynny yn dewis yr enillwyr.
Rydym yn gofyn eich bod yn gwneud cais am ganiatâd oddi wrth eich enwebai ar gyfer yr enwebiad ei hunan, gan roi gwybod iddynt am ba ddata personol y byddwch chi’n ei rannu gyda ni, ac anfon copi o’r hysbysiad preifatrwydd hwn atynt.
Yr hyn y byddwn yn ei gasglu:
Fel rhan o’r ymgyrch Newidiwr Gêm, rydym yn casglu eich enwebiadau a fydd yn cynnwys:
Enw eich enwebai Newidiwr Gêm
Disgrifiad o’r hyn mae’r unigolyn hwnnw yn ei wneud o fewn eu prosiect
Enw cyswllt, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ar gyfer yr enwebai
Cyfrifoldeb yr enwebwr yw cael caniatâd oddi wrth yr enwebai i’w henwebu, ac os yw eich enwebai dan 18 mlwydd oed, fe fyddwn angen i chi gadarnhau caniatâd gan riant/gwarcheidwad. Yn yr achos hwn, fe fyddwn yn gofyn am enw a rhif ffôn y rhiant/gwarcheidwad.
Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth a ddarparwch:
Fe fyddwn yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwch i gyflwyno manylion i’r broses tynnu rhestr fer ar gyfer yr ymgyrch Newidiwr Gêm.
Fe fyddwn yn rhannu’r wybodaeth a ddarparwch gyda’n cydlynwyr ymgeision a fydd yn defnyddio’r wybodaeth hon fel sail ar gyfer tynnu rhestr fer o ymgeiswyr. Yn ychwanegol at hyn, efallai y byddwn yn defnyddio’r cyfeiriadau e-bost a gyflenwir i annog ymgeision mewn blynyddoedd dilynol. Bydd ein cydlynwyr yn casglu data o ffynhonellau cyhoeddus i gyflwyno gwybodaeth ar benderfyniadau wrth dynnu rhestr fer o ymgeiswyr.
Sail gyfreithiol dros brosesu:
Rydym yn casglu a phrosesu’r wybodaeth bersonol a ddarparwch i ni dan
Erthygl 6 (1)(a) – mae testun y data wedi rhoi caniatâd ar gyfer prosesu ei (dd) data personol ar gyfer un neu ragor o ddibenion penodol;
Pa mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol:
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeision ar gyfer yr ymgyrch Newidiwr Gêm yw canol nos ar 17 Mehefin 2024 ac rydym yn rhagweld rhannu manylion eich sefydliad hyd at y dyddiad hwn.
Bydd y data a ddarparwch i ni yn cael ei ddefnyddio o fewn ymgyrch Newidiwr Gêm eleni ac yn cael ei gadw tan fis Mai 2025 er mwyn cyflwyno gwybodaeth o ran ymgeision ar gyfer ymgyrchoedd y dyfodol.
Beth yw fy hawliau?
Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl i’r Gronfa ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg.
Mae gennych hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth.
Mae gennych hawl i ofyn am gywiro neu ddileu eich gwybodaeth.
Mae gennych yr hawl i ofyn fod eich gwybodaeth yn cael ei gwneud ar gael i chi mewn fformat sy’n caniatáu ei ailddefnyddio gan sefydliadau eraill.
Gallwch wneud hynny trwy gysylltu ag Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol ar 077 6529 8899.
Gyda phwy y gallaf gysylltu â hwy am ragor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth ar y rhaglen a sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth, cysylltwch ag: Erin O’Neill, Rheolwr Ymgyrchoedd Digidol, erin.o’neill@lotterygoodcauses.org.uk
Beth os nad wyf yn hapus am sut mae fy nata’n cael ei ddefnyddio?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu gwynion, ac i ymarfer eich hawliau data personol, cysylltwch yn y lle cyntaf gyda’r Swyddog Diogelu Data ar data.protection@tnlcommunityfund.org.uk neu trwy ysgrifennu at y Swyddog Diogelu Data yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Apex House, 3 Embassy Drive, Birmingham, B15 1TR.
Gallwch gysylltu gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113 neu dros e-bost ar email https://ico.org.uk/global/cont... neu yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF.