Behind the Label
Prosiect creadigol yw Behind the Label i bobl sydd wedi profi digartrefedd a hunan-barch isel i rannu eu profiadau o fywyd sy’n arwain at berfformiad theatr amgen fel uchafbwynt. Canlyniad hyn yw perfformiad anhygoel o onest a chignoeth sy’n agoriad llygad ac yn archwilio ymddygiadau pobl sydd wedi profi digartrefedd yn ymarferol a’r gwrthdaro a brofir ganddynt.
Cafodd Behind the Label (BTL) ei greu gan Theatr Versus Oppression (TVO), sefydliad celfyddydol sydd wedi cynnal prosiectau theatr cymhwysol yng Nghymru, led led y DU ac mewn amrywiol wledydd yn ne America, Affrica ac Asia. Mae BTL yn gweithio gyda phobl sy’n dioddef o anawsterau yn amrywio o alcoholiaeth a chaethiwed i gyffuriau, trais domestig a/neu rywiol, anawsterau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu. Un peth a rennir sy’n gyffredin iddynt yw eu bod oll wedi cael eu labelu gan gymdeithas mewn rhyw ffordd neu arall, a’u bod yn teimlo nad oedd neb wedi gweld nac yn gofalu am bwy oeddynt hwy y tu ôl i’r labeli hynny. Nod BTL yw eu grymuso i allu adrodd eu storïau a dangos fod llawer iawn mwy iddynt na’r hyn y bydd y label yn ei awgrymu.
Dywedodd Dr Jennifer Hartley, sylfaenydd TVO: “Ein bwriad yw addysgu cymunedau a’r cyhoedd am y materion sydd wedi arwain at ddigartrefedd, effaith tymor hir trawma, a pha mor wanychol y gall y labeli negyddol hyn fod.”
Mae’r prosiect wedi cael effaith drawsnewidiol ar nifer o’r rheini fu’n ymwneud ag ef. Mae 75% o’r cyfranogwyr blaenorol yn cymryd rhan mewn rhaglenni gwirfoddoli a mentora erbyn hyn, mae 60% wedi datgan gostyngiad sylweddol yn eu defnydd o gyffuriau/alcohol, ac mae 40% wedi ail-gysylltu gyda’u teuluoedd.
Dywedodd Kelly, oedd wedi cymryd rhan mewn rhaglen beilot gyda Behind the Label yn 2016, ac sydd wedi mentora cast 2018: “Un o’r pethau mwyaf cadarnhaol yw cwrdd â phobl eraill sydd wedi mynd trwy gymaint hefyd yn eu bywydau, gan y gallwn gysylltu trwy gymaint o hyn. Dydych chi ddim yn teimlo fel eich bod ar ben eich hunan bellach. Mae Behind the Label wedi golygu llawer iawn i mi.”
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan Behind the Label? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community