Berwyn Rowlands
Berwyn yw sylfaenydd a chyfarwyddwr gŵyl ffilmiau LGBTQ+ Gwobr Iris, a gynhelir yng Nghaerdydd ac sy’n wobr ffilmiau LGBTQ+ byrion mwyaf y byd.
Yn hoff o ffilmiau ers yn ifanc, roedd Berwyn yn cynhyrchu “ffilmiau” gan ddefnyddio ei gamera 8mm ac yn taflunio ffilmiau i’w ffrindiau yn ystafell flaen ei rieni ers yn naw mlwydd oed. Mae Berwyn wedi cynhyrchu ffilmiau ar gyfer y sinema a’r teledu sydd wedi’u darlledu ar y BBC, ITV a S4C, gan gynnwys Llety Piod (DU), ffilm deledu 90 munud gyda Bill Nighy yn serennu. Trefnodd ei ŵyl ffilmiau gyhoeddus gyntaf yn Aberystwyth, Cymru yn 1989, a ddaeth yn ŵyl Ffilmiau Ryngwladol Cymru, gan gynnwys penwythnos o ddathliadau ffilmiau LGBTQ+.
Yn 2006, sefydlwyd Gwobr Iris gan Berwyn – gwobr ffilm fer LGBTQ+ fwyaf y byd sy’n werth £40,000. Hyd yn hyn, mae 12 ffilm fer wedi’u cynhyrchu gyda Gwobr Iris, gan gynnwys Burger a Followers a ddangoswyd yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance. Yn 2016, dathlodd yr ŵyl ei 10fed pen-blwydd ac fe’i cydnabuwyd gan BAFTA fel gŵyl “A” list. Mae’r digwyddiad yng Nghaerdydd wedi ymddangos o fewn rhestr 50 o brif wyliau ffilmiau’r byd gan y Movie Maker Magazine
am bedair blynedd ac fe’i cydnabuwyd gan y Frenhines Elizabeth II mewn derbyniad ar gyfer y Diwydiant Ffilmiau Prydeinig yn 2013.
Dywedodd Berwyn: “Pob blwyddyn mae Gwobr Iris yn rhoi cyfle i rannu’r straeon LGBTQ+ gorau o bob rhan o’r DU. Mae’r ŵyl yn parhau i fod yn ddathliad o straeon byd-eang a swyn Caerdydd, gan amlygu straeon o’r gymuned LGBTQ+. Mae’r arian oddi wrth y Loteri Genedlaethol wedi bod mor bwysig i Wobr Iris – mae’n fwy na thlws sy’n casglu llwch neu dystysgrif sy’n melynu ar y wal. Mae Iris yn rhoi’r hyn sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilm – arian, cefnogaeth, arweiniad a chynulleidfa newydd i’w gwaith.”
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan Berwyn Rowlands? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community