Forget-me-not Chorus
Ers 2011, mae Forget-me-not Chorus – un o brif elusennau dementia Cymru – wedi bod yn trefnu sesiynau canu wythnosol i bobl sydd â dementia a’r sawl sy’n eu cefnogi. Mae’n gweithio led led y DU gydag oddeutu 1,000 o bobl yn cymryd rhan pob wythnos, mewn cartrefi gofal, ysbytai a’r gymuned.
Mae’n gweithio led led y DU, a thrwy bump o gorau cymunedol, ugain o gorau ‘Canu Cryf – Singing Strong’ mewn cartrefi gofal, llyfrgell o sesiynau canu am ddim sydd wedi’u recordio o flaen llaw a gwasanaeth ysbyty – mae’r tîm o gerddorion proffesiynol arbennig o fedrus yn cyrraedd dros 1000 o bobl yr wythnos.
Mae’r rheini sy’n elwa o bob oedran ac yn cynnwys y sawl sydd â dementia cynnar sy’n dechrau mewn pobl ifanc ac Alzheimer’s, eu teuluoedd, a’u gofalwyr. Mae’r sesiynau yn defnyddio cerddoriaeth fel offeryn ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu ystyrlon, gan gyflwyno llawenydd a chwerthin a chynnig seibiant o’r drefn arferol ddidostur a natur ynysig dementia.
Trwy brosiectau artistig pwrpasol, mae’r elusen yn creu gweithiau gwreiddiol i’w rhannu gyda’r gymuned ehangach, sy’n meithrin synnwyr o werth a chyflawniad. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys ‘Edau Digidol – Digital Threads’ a ariannwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, lle bu’r elusen yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro i gasglu storïau bywyd a threftadaaeth gerddorol cleifion mewnol. O hyn, roedd yr awdures, Emma Jenkins wedi llunio barddoniaeth ac wedi creu darn o waith celf gweledol ac ymdrwythol mewn cydweithrediad gyda’r artist, Nathan Wyburn a Callum Scott Howells, actor yn y gyfres ‘It’s a Sin’.
Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 10 mlynedd yr elusen, mae dros 450 o aelodau côr o bob cwr o’r DU, Gogledd America a’r Dwyrain Canol wedi uno i recordio gwaith corawl a gomisiynwyd yn arbennig sef ‘With Joy My Soul Sings.’ Roedd Rebecca Evans, y soprano fyd-enwog wedi perfformio gyda’r côr byd-eang yn y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Fonesig Kiri Te Kanawa.
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan Forget-me-not Chorus? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community