Lisa Power MBE
Mae Lisa Power yn ymgyrchydd amlwg dros iechyd rhywiol a hawliau LGBTQIA+ ym Mhrydain, ac mae wedi cael ei disgrifio fel ‘mam fawr’ gweithredu dros LGBTQIA+.
Mae Lisa hefyd yn Gyfarwyddwr Polisi ar gyfer Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, yn Ysgrifennydd Cyffredinol ILGA, y rhwydwaith byd-eang, ac roedd yn un o sylfaenwyr Stonewall. Fel y person LGBT cyntaf i siarad yn agored yn y Cenhedloedd Unedig, mae'n parhau i weithio ac yn gwirfoddoli yng Nghymru gyda Fast Track Cymru a Pride Cymru ac mae ar Fwrdd Queer Britain, yr amgueddfa genedlaethol LGBTQIA+.
Cydlynodd Lisa y Prosiect Eiconau a Chynghreiriaid gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, prosiect sy’n darganfod ac yn anrhydeddu ffigyrau LGBTQIA+ a chynghreiriaid arloesol o bob rhan o Gymru, ac sy’n parhau i ysbrydoli pobl saith mlynedd ers ei gychwyn. Daeth cyflwyniadau i mewn o bob rhan o Gymru, gydag enwau dynion a merched mor bell yn ôl â'r chweched ganrif, gyda nawddsant y genedl ei hunan yn cyrraedd y rhestr hir.
Dywedodd Lisa: “Mae treftadaeth yn bwysig i mi. Rwy'n 69 oed ac rwyf wedi bod yn rhan o'r gymuned LGBT+ ers y 1970au. Dros y cyfnod hwn, rwyf wedi gweld pobl yn colli ein hanes ac yn cael ein hanes yn anghywir. Cafodd cenedlaethau blaenorol yr hanes hwnnw eu gormesu, eu cuddio neu eu camliwio, gan gynnwys yng Nghymru. Gyda chefnogaeth arian y Loteri Genedlaethol, nid yn unig yr ydym wedi gallu dod o hyd i hyn, ond hefyd, rydym wedi gallu gwerthfawrogi'n llawn pa mor gyfoethog yw ein treftadaeth. Mae gwersi o'r gorffennol y gallai pob un ohonom ddysgu ohonynt, i osgoi cael ein treftadaeth ynghudd eto.”
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan Lisa Power MBE? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community