Marcus Fair
Goroesodd Marcus Fair 25 mlynedd o fod yn gaeth i heroin a chrac cocên, cyfnodau helaeth o fod yn ddigartref a dedfrydau niferus yn y carchar cyn mynd yn ei flaen i sefydlu’r elusen Eternal Media.
Goroesodd Marcus Fair 25 mlynedd o fod yn gaeth i heroin a chrac cocên, cyfnodau helaeth o fod yn ddigartref a dedfrydau niferus yn y carchar cyn mynd yn ei flaen i sefydlu’r elusen Eternal Media. Roedd bywyd Marcus wedi dirywio hyd at bwynt lle gwnaeth ddioddef sawl cyfnod o fod ar y gwaelodion pennaf a nifer dirifedi o orddosau ar y strydoedd, wedi’i golli o fewn cylch o gaethiwed. Mae'n cofio moment yn y carchar pan yr oedd ond yn gwybod ei fod yn dathlu ei ben-blwydd yn 40 oed oherwydd gwelodd nyrs methadon, a oedd yn gweinyddu’r cyffur sy’n amnewid am heroin, hynny ar ei bresgripsiwn a chanu pen-blwydd hapus iddo.
Dechreuodd wneud ffilmiau unwaith eto yn y carchar a gwyddai petai ond yn gallu dychwelyd i’r man creadigol hwnnw, y gallai ganfod ei docyn i ddychwelyd o uffern a dod yn rhydd o gyffuriau.
Cafodd y syniad am greu Eternal Media yn ystod ei dro olaf yn y carchar, - dedfryd y dywedodd Marcus a achubodd ei fywyd - tra’r oedd yn eistedd ar wely bwnc ei garchar yn edrych trwy fariau ei gell. Mae’r elusen yn gweithio gyda throseddwyr, cyn-droseddwyr a’r sawl sydd mewn perygl o droseddu, gan gynnwys canolbwyntio ar bobl sydd wedi adfer neu’n ceisio adfer o gaethiwed. Trwy gynnig cyfleoedd am gefnogaeth, addysg, gwirfoddoli a hyfforddiant mewn gwneud ffilmiau a ffurfiau eraill o gyfryngau, mae Eternal yn lle diogel i gyfranogwyr archwilio eu creadigrwydd gyda phobl o’r un anian ar amrywiol gamau o adferiad. Gan weithio allan o Fyncer Niwclear y Rhyfel Oer o’r 1960au yn Wrecsam, mae Marcus yn defnyddio ei brofiad personol o rywun sydd wedi canfod ffordd allan o gaethiwed hir i gyffuriau, digartrefedd a throsedd, i allu dangos y ffordd i eraill erbyn hyn o’r hunllef o fyw gyda chaethiwed, troseddu a marwolaeth unig sy’n digwydd yn rhy aml ac y gellir ei osgoi ar ein strydoedd.
Wedi’i fentora yn Llundain gan wneuthurwr ffilmiau sydd wedi ennill gwobr BAFTA, mae Marcus yn dod â’i sgiliau o’r diwydiant yn ôl ac yn eu rhannu gyda’i griw a chyfranogwyr yng ngogledd Cymru i wneud ffilmiau dogfen eithriadol o brydferth, emosiynol a thrawiadol gyda phobl o bob cwr o’r wlad yn deillio o nifer o gymunedau ynghyd â charchardai. Defnyddir cynhyrchiadau Eternal gan garchardai’r DU ac mae mynediad gan garchardai ym mhob cwr o’r byd at y podlediadau a ffilmiau. Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae Eternal Media wedi croesawu dros 700 o bobl trwy ddrysau’r byncer i ddangos fod newid positif nid yn unig yn bosibl, ond yn debygol.
Dywedodd Marcus Fair: “Ar gyfer y mwyafrif helaeth o’m bywyd, dim ond fel rhywun anobeithiol oedd yn gaeth i gyffuriau y gellir fy nisgrifio. Fy unig reswm dros fodoli a’m unig ddiben mewn bywyd oedd cymryd heroin. Des yn gaeth mor ifanc ac roedd bod yn gaeth wedi fy nghaethiwo mewn drws cylchdro o orsafoedd heddlu gyda dedfrydon carchar ac ymweliadau niferus ag ysbytai. Doeddwn i ddim yn gwybod fod adferiad yn bosibl i rywun fel minnau gyda chaethiwed o’r math mwyaf anobeithiol."
“Dechreuais Eternal Media fel prosiect ‘wedi caethiwed’ oherwydd nad oedd unrhyw beth tebyg iddo yn bodoli a meddyliais i’m hunan, ‘Fi yw’r adict gwaethaf dwi’n ei adnabod, ac os yw’n cael y fath effaith anhygoel â’m cadw’n lân ac allan o’r carchar, oni allai Eternal wneud yr un peth i eraill?’ A dyna mae’n ei wneud, ddydd ar ôl dydd."
“Rwy’n teimlo fod fy nghaethiwed o 25 mlynedd ychydig yn llai o wastraff gyda phob unigolyn newydd a gefnogwn. Rydym yn cyflwyno cyfryngau o ansawdd cynhyrchu uchel ac rydym yn gwneud ffilmiau anhygoel, ond sgil gynhyrchion yw’r rhain o’r hyn a wnawn. Beth a wnawn i bob diben yw ailadeiladu pobl ac ailadeiladu cymunedau, sy’n rhywbeth yr ydym yn wirioneddol angerddol a balch ohono. Mae arian oddi wrth y Loteri Genedlaethol wedi ein galluogi ni i wneud y gwahaniaeth mwyaf anhygoel a helpu cymaint o bobl i drawsnewid eu bywydau. Fel rhywun a aned yn adict, roedd yn fy DNA i fod eisiau mwy i bob diben … a gyda chefnogaeth y loteri, rwy’n gwybod y gallaf helpu cymaint yn fwy o bobl yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod!”
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan Marcus Fair? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community