The Black Swimming Association
Y Gymdeithas Nofio ar gyfer Pobl Dduon (BSA) yw’r sefydliad cyntaf sy’n gweithio i hyrwyddo addysgu cymunedau o dreftadaeth Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd am ddiogelwch dŵr, atal boddi a buddion y byd dyfrol trwy raglenni tywys ac ymgyfarwyddo â dŵr; gan bwysleisio gwerth nofio fel sgil achub bywyd hanfodol i bob cymuned.
Nofio yw’r unig gamp a all achub bywydau. Mae’n borth tuag at gyfranogiad diogel mewn chwaraeon a gweithgareddau dyfrol, ac yn faes posibl ar gyfer gyrfa. Fodd bynnag, dengys cyfranogiad swyddogol ymysg cymunedau Affricanaidd, Caribïaidd ac Asiaidd; na all 95% o Oedolion Croenddu; 80% o Blant Croenddu; 93% o Oedolion Asiaidd; a 78% o Blant Asiaidd nofio yng Nghymru a Lloegr. Nod y BSA yw diffinio’r darlun yng Nghymru ac mae’n gweithio tuag at ymyriadau sydd wedi’u targedu i atal y cymunedau hyn rhag bod mewn perygl mawr o foddi neu fod mewn digwyddiadau lle bydd boddi bron â digwydd.
Mae Seren Jones, cyd-sylfaenydd y BSA yn cofio bod mewn arswyd o ddŵr fel plentyn ond roedd ei rhieni yn benderfynol y byddai eu plant yn cael gwersi, ac aeth ymlaen i gystadlu ar lefel elît gyda Chlwb Nofio Dinas Caerdydd gan ennill ysgoloriaeth nofio i brifysgol Americanaidd.
Gan weithio’n agos gyda phartneriaid dyfrol, diogelwch dŵr ac addysg strategol ar draws Lloegr, mae’r BSA wedi creu partneriaeth erbyn hyn gyda Chwaraeon Cymru i wneud nofio a chwaraeon dyfrol eraill yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd. Dyma’r tro cyntaf mae prosiect wedi canolbwyntio ar y mater hwn o fewn y genedl. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys swydd ymgysylltu cymunedol, rhannu a datblygu ymchwil arloesol, a gweithredu rhaglenni cynaliadwy dan arweiniad y gymuned. Gan y gymuned, gyda’r gymuned, ar gyfer y gymuned.
BSA co-founder, Seren Jones remembers being petrified of water as a child but her parents were determined their children would have lessons, and she went on to compete at elite level with City of Cardiff Swimming Club and win a swimming scholarship to an American university.
Working closely with strategic aquatic, water safety and education partners across England, the BSA has now created a partnership with Sport Wales to, in partnership with Swim Wales, make swimming and other aquatic sports more ethnically diverse, the first time a project has focused on this issue in the nation. The partnership includes a community engagement post, sharing and development of ground breaking research, and the implementation of sustainable community led programmes.
By the community, with the community, for the community.
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan The Black Swimming Association? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community