The Jac Lewis Foundation
Mae’r elusen hon a sefydlwyd er cof am bêl-droediwr ifanc yn helpu pobl i gael mynediad cyflym at gefnogaeth iechyd meddwl, ynghyd â gwasanaeth cynghori i deuluoedd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Ei nod yw sicrhau fod pawb yn eu cymuned, beth bynnag fo eu hoedran, yn gallu cael mynediad at gefnogaeth gyflym ar gyfer unrhyw faterion iechyd meddwl.
Roedd Jac Lewis yn 27 oed pan gyflawnodd hunanladdiad ym mis Chwefror 2019 wedi pum mlynedd o straffaglu gyda’i iechyd meddwl.
Roedd y saer ifanc wedi ei gweld yn anodd cael cefnogaeth oddi wrth y GIG ar gyfer ei lesiant, a chwalwyd ei deulu a’i ffrindiau gan ei farwolaeth. O ganlyniad i hyn, penderfynodd Jesse, ei dad a’i ffrindiau o fewn tîm Clwb Pêl-droed Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru, i weithredu a sicrhau na fyddai unrhyw un yn teimlo fel nad oedd bywyd yn werth ei fyw.
Aethant ati i sefydlu Sefydliad Jac Lewis yn ddiweddarach y flwyddyn honno – penderfyniad oedd wedi’i amseru’n dda wrth i’r pandemig gyflwyno swnami o broblemau iechyd meddwl. Nod yr elusen yw sicrhau fod pawb yn eu cymuned, beth bynnag fo eu hoedran, yn gallu cael mynediad at gefnogaeth gyflym ar gyfer unrhyw faterion iechyd meddwl.
Mae ganddo wasanaeth cefnogaeth ar gyfer profedigaeth trwy hunanladdiad i Gymru gyfan, a dderbyniodd ddau grant oedd yn gyfanswm o £19,240 oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae’r elusen yn gweithredu o ganolfan lesiant ar feysydd Clwb Pêl-droed Rhydaman, a adeiladwyd yn arddull rhaglen deledu DIY SOS, gydag adeiladwyr a busnesau yn darparu sgiliau a deunyddiau am ddim.
Fe’i hagorwyd ym mis Rhagfyr 2020 gyda dim ond un cynghorydd. Mae’r tîm wedi tyfu’n sylweddol ers hynny ac wedi cefnogi dros 1600 o oedolion a phlant gyda’i wasanaethau rhad ac am ddim gan gynnwys cefnogaeth dros y ffôn, sesiynau cynghori un i un, gweithdai llesiant, a hyb iechyd meddwl un stop sy’n cynnig cefnogaeth ddi-oed.
Wedi’ch ysbrydoli? Ymgeisiwch am arian
Wedi’i ysbrydoli gan The Jac Lewis Foundation? Ymgeisiwch am arian i gefnogi’ch cymuned eich hunan. Chwilio am nawdd
Dros 685,000 o brosiectau wedi’u hariannu
Mae’r Loteri Genedlaethol wedi rhoi £43 biliwn i brosiectau lleol yn union fel y prosiect hwn i gefnogi’ch cymuned leol. Discover more local projects in your community