A One Man Band
1st Rhagfyr 2020
Lee Turner,
Rheolwr Cyffredinol,
Ymddiriedolaeth Penllergare,
Abertawe,
Cymru
Tan y cyfnod clo, roedd Lee Turner yn rheolwr oedd yn gweithredu o swyddfa, ar gyfer prosiect mawreddog i adfer safle treftadaeth Gymreig nodedig.
Ond gyda’r cyfan o’i staff ar ffyrlo, tyfodd heriau Lee yn gyflym iawn, wrth iddo ddod yn ‘fand un dyn’, gan wneud gwaith llanw ar gyfer ei weithlu coll trwy weithredu fel codwr arian, torrwr coed, warden, gwrŵ cyfryngau cymdeithasol, rheolwr adnoddau dynol a chasglwr baw cŵn – ar y cyd â’i holl gyfrifoldebau gweinyddol ei hunan i gyd.
O ganlyniad i’w ymroddiad, mae Lee yn un o lond llaw o weithwyr o bob cwr o’r DU sy’n cael ei gydnabod yn ffurfiol gan y Loteri Genedlaethol am ei waith neilltuol yn ystod y pandemig, gyda’i ddelwedd yn cael ei lewyrchu ar un o safleoedd treftadaeth fwyaf adnabyddus y DU, sef Côr y Cewri (Stonehenge).
Wedi’i sefydlu yn 2000, nod Ymddiriedolaeth Penllergare yw adfer a diogelu ardal o 260 erw, pum milltir y tu allan i Abertawe, gan gynnwys gardd furiog fawr a thŷ tegeirianau a dybir i fod yn un cyntaf o’i fath yn y DU.
Derbyniodd y safle grant o £1.7m yn 2015 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer y safle eang a helaeth, sef cyn ystâd teulu’r Dillwyn Llewelyn, oedd yn deulu dylanwadol yn ardal Abertawe.
Derbyniwyd cymorth ar gyfer adferiad helaeth trwy’r ffaith fod y safle gwreiddiol wedi’i ddogfennu’n dda gan John Dillwyn Llewelyn, ffotograffydd brwdfrydig, ac un o’r bobl gyntaf i berchen camera yng Nghymru. Aeth ef ati i gymryd nifer o’r ffotograffau cynnar o’r dirwedd gyfagos yn ystod canol yr 1800au, gan gynnwys y coetiroedd helaeth, afon, llynnoedd a rhaeadrau, gyda’r cyfan yn profi dirywiad yn anffodus. O fewn ei Arsyllfa, tynnodd John Dillwyn Llewelyn un o Ffotograffau cyntaf y byd o’r Lleuad!
Dywedodd Lee: “Pan ffurfiwyd yr Ymddiriedolaeth gyntaf, canfuwyd 70 o geir wedi’u llosgi llwyr yn yr afon. Y gwaith mwyaf costus oedd cloddio’r llyn uchaf, a oedd wedi’i llenwi gyda gwaddodion yn llwyr, ynghyd â gosod llwybrau a thraciau. Yna aethom ati i sefydlu cyfleoedd i wirfoddolwyr, siop goffi fechan ac fe dyfodd y cyfan yn gyflym iawn.
“Nawr mae’n fan lle yr ydym yn croesawu pob demograffeg, pob oedran a phob profiad ac mae pawb yn cael croeso cynnes, Rwy’n meddwl mai dyna yw rhan o’r hud.
“Mae gennym dros 100 o wirfoddolwyr ac mae rhai o’r gwirfoddolwyr hynaf yn eu 80au a nifer ohonynt yn dod o bob anian. Dyma i bob diben sydd wedi bod yn gryfder i’r prosiect, mae llawer o gariad tuag at Penllergare.”
Mae tîm yr ymddiriedolaeth fel arfer yn cynnwys dau aelod staff llawn amser a chwech o weithwyr rhan amser, gan gynnwys rheolwr y stad, swyddog gweinyddol a chyllid, swyddog masnachol a dyn coed sy’n clirio’r safle, ond newidiodd hynny i gyd yn y cyfnod clo.
Dywedodd Lee: “Fel arfer, gwaith rheoli yw fy rôl gan fwyaf; rwyf yn eistedd y tu ôl i ddesg y mwyafrif o’r amser. Dydw i byth yn llwyddo i fynd allan llawer ac yn teipio gan fwyaf, ond roedd y cyfnod clo yn golygu ysgwyddo’r holl rolau eraill oedd wedi cael eu gosod ar gyfnod ffyrlo, gan gynnwys mynd allan gyda llif gadwyn a gwacáu biniau baw cŵn gan fod pobl dal i ddefnyddio’r safle.
“Mae’r bobl yn yr ardaloedd cyfagos sy’n byw o amgylch y safle yn angerddol iawn am ddefnyddio’r man gwyrdd i gerdded cŵn a mynd ar deithiau cerdded i’r teulu, felly mae cannoedd o fynedfeydd anffurfiol i’r 260 o erwau er ein bod wedi cau’n swyddogol.
“I mi, roedd hi’n wirioneddol braf gweld yr ardal yr wyf yn gwneud yr holl waith yma ar ei rhan, ond nad wyf fel arfer yn cael ei gweld. Mewn rhai ardaloedd, roedd bywyd gwyllt i bob golwg yn ymddangos fel ei fod yn ffynnu’n gyflym iawn gan fod llai o bobl yno.
“Yr amser anoddaf oedd hanner ffordd trwy’r cyfnod clo cyntaf, pan yr oeddwn wedi blino’n lân i bob diben. Roeddwn yn rhy brysur i gymryd unrhyw wyliau blynyddol, ac roedd hi’n ymddangos fel bod y rhestr waith yn ddiddiwedd.
Roeddwn yn gweithio trwy’r penwythnosau a min nos, a phan gefais wythnos ymaith o’r gwaith yn y diwedd pan ddechreuon ni groesau’r staff eraill nôl yn rhan amser ar ddiwedd mis Awst, dyna’r seibiant cyntaf i mi ei gael ers y Nadolig.
“I’r Ymddiriedolaeth, roedd ambell gyfnod anodd ar y dechrau. Pan wnaethom ni ragweld cau’r siop goffi a’r maes parcio, sy’n gweithredu fel ein prif incwm, roeddem yn gwybod fod rhaid i ni dalu £35,000 y flwyddyn mewn prydles i’r perchennog tir. Felly gyda hyn ar flaen y meddwl ynghyd â’r holl argostau a chostau eraill, roedd yn sefyllfa eithaf brawychus i weld pa mor hir fyddai ein cronfeydd cyfyngedig iawn wrth gefn yn parhau – a doedd o ddim mor hir â hynny o gwbl. Yn ffodus, roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gallu rhoi ychydig o arian brys i ni ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru gyda chyfraniadau gan gefnogwyr hefyd. Roedd hynny wedi’n cadw rhag suddo yn ariannol.”
Dywedodd Lee am y prosiect: “Mae Penllergare yn lle hudolus a chyfareddol. Mae’n un o’r lleoedd hynny y byddwch yn mynd iddo ac yn teimlo affinedd a chysylltiad ag ef. Derbynion ni wobr y Frenhines yn 2016, oedd yn arbennig iawn.
“Gyda 100 o wirfoddolwyr, rwy’n aml yn dweud fod gennyf dros 100 o benaethiaid oherwydd maen nhw mor angerddol am yr ardal, ac maen nhw oll mor awyddus a brwdfrydig i’n gweld yn datblygu – mae hynny’n wych. Dyma fu ein camp fwyaf, sef cynnal y gefnogaeth hon, o ystyried yr holl bwysau sydd wedi bod.
“Rydym yn diogelu’r safle anhygoel hwn yn Abertawe sydd wedi bod yn angof ers hir ac yn diogelu bywyd gwyllt gan sicrhau ein bod yn cynnwys pobl a’u bod yn gwirfoddoli. Mae ychydig o bobl wedi dweud wrthyf fod Penllergare wedi achub eu bywydau, boed os oedd hynny oherwydd eu bod wedi’u heithrio’n gymdeithasol neu oherwydd bod ganddynt anawsterau iechyd. Mae ei effaith wedi bod yn anhygoel.”