The symbol of a lost generation
11th Tachwedd 2021
Darganfyddwch hanes Ellis Humphrey Evans, bardd Cymreig y gwobrwywyd cadair yr Eisteddfod ym Mhenbedw yn 1917 iddo wedi ei farwolaeth, ar ôl iddo fethu â dychwelyd o ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei stori yn byw ymlaen diolch i ganolfan a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yn hen gartref y bardd yng ngogledd Cymru.
“Mae pobl yn teimlo cysylltiad go iawn gyda’r lle hwn ac wedi gwneud erioed,” dywedodd Rheolwr y Safle, gan roi proc i’r tân yng nghegin y ffermdy cerrig a oedd unwaith yn gartref i’r bardd Cymreig, Hedd Wyn.
Mae’n wir: Mae’r Ysgwrn yn teimlo fel lle arbennig. Mae hyn yn rhannol oherwydd y lleoliad – mae’r adeilad ynysig yn mwynhau golygfeydd gogoneddus o fryniau Eryri – ond stori Hedd Wyn ei hunan yw’r atyniad i’r mwyafrif o ymwelwyr. Cafodd y bardd eithriadol hwn, a ddysgodd ei hunan i farddoni, ei ladd yn 1917 ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele.
Ei enw go iawn oedd Ellis Humphrey Evans, bugail a aned ym mhentref Cymreig, Trawsfynydd. Gan gyfansoddi yn y Gymraeg ac wedi’i ysbrydoli gan farddoniaeth ramantus, bu’n fuddugol mewn nifer o gystadlaethau ac eisteddfodau lleol. Awgrymodd un o’i gyfoedion y dylai fabwysiadu’r enw barddol, Hedd Wyn.
Fel heddychwr Cristnogol, nid oedd Ellis wedi ymrestru pan ddechreuodd y rhyfel. Ond roedd gofyn i’w deulu anfon un o’u meibion i ymuno â Byddin Prydain a chofrestrodd Ellis, oedd yn 29 mlwydd oed, yn hytrach na’i frawd iau.
Lladdwyd ef ar 31 Gorffennaf, 1917 yn Nhrydedd Frwydr Ypres. Chwe wythnos yn ddiweddarach, cafodd cerdd a gyflwynwyd ganddo i’r Eisteddfod Genedlaethol yn defnyddio ffug enw, ei datgan yn enillydd cadair y bardd, y wobr fwyaf y gellir ei gwobrwyo i fardd Cymreig.
Pan gyhoeddwyd ei farwolaeth, gorchuddiwyd y gadair wag gyda lliain du ac roedd y digwyddiad yn cael ei adnabod fel Y Gadair Ddu (neu Eisteddfod y Gadair Ddu). Heddiw, gellir gweld yr orsedd sydd wedi’i cherfio’n gywrain yn Yr Ysgwrn ynghyd â nifer o arteffactau eraill o fywyd byr y bardd.
Dywedodd Rheolwr y Safle yn Yr Ysgwrn fod bywyd a marwolaeth Ellis wedi rhoi naws chwedlonol iddo. “Ond pan fyddwch yn dod yma rydych yn dysgu am y dyn,” dywedodd. Cyflwynir y wers honno yng nghegin y bwthyn fel arfer, lle mae hi yn cynnau tân ac y dweud wrth yr ymwelwyr am y teulu mawr a rannodd fywyd Ellis.
Mae’n tynnu sylw at y ffaith y gwnaed y penderfyniad i gadw’r bwthyn fel cartref yn hytrach nag amgueddfa. Mae’r waliau’n rhydd, gan fwyaf, o baneli a labeli ac mae naws cynnes, cartrefol i’r adeilad.
Ymlwybrodd yr ymwelwyr cyntaf i fyny’r trac cul sy’n arwain at y bwthyn ym mis Tachwedd, 1917, yn fuan ar ôl “cadeirio” Ellis wedi ei farwolaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Am gyfnod, byddai ei fam yn dangos pobl chwilfrydig o amgylch y tŷ; yn ystod y blynyddoedd dilynol, ei nai, y diweddar Gerald Williams, fu’n cyflawni dyletswyddau tebyg.
Prynwyd y bwthyn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Mawrth 2012, ond buan y sylweddolwyd fod y gost o adnewyddu’r adeilad a’i wneud yn hygyrch i nifer gynyddol o ymwelwyr yn uchel. Gwobrwywyd grant o £149,700 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i ddatblygu cynlluniau i adnewyddu’r bwthyn a’i adeiladau allanol.
“Roedd y bwthyn heb ei adnewyddu yn wreiddiol iawn ac roedd pobl yn gwybod i le’r oeddynt yn dod,” dywedodd Rheolwr y Safle, “Ond os oeddech eisiau denu pobl o bell i adrodd y stori, roeddem yn amlwg angen addasu’r safle a dyna pryd yr aethpwyd ati i gyflwyno cais Loteri.”
Ym mis Mai 2014, cafodd grant o £2.7 miliwn pellach ei sicrhau oddi wrth y Gronfa i symud ymlaen gyda’r gwaith cadwraeth ar y bwthyn a thrawsnewid y beudy yn ganolfan ymwelwyr a chaffi. Mae’r ysgubor y tu ôl i’r bwthyn wedi cael ei drawsnewid yn ystafell sgrinio ac adeiladwyd ysgubor newydd i’r ffermwr sy’n rhentu’r 168 erw o amgylch y bwthyn. Adeiladwyd llety newydd hefyd ar gyfer nythfa o ystlumod preswyl Yr Ysgwrn.
Ers ailagor Yr Ysgwrn ym mis Mai, 2017, mae mwy na 24,000 o bobl wedi pasio trwy ei ddrysau. Mae nifer ohonynt yn Gymraeg, wrth gwrs. Ond mae llwyddiant Hedd Wyn, ffilm Gymreig am fywyd y bardd a enwebwyd am Wobr yr Academi yn 1994, wedi denu nifer gynyddol o ymwelwyr o fannau fel America, Canada a Seland Newydd.
Pam maen nhw’n dod? Mae diddordeb gan rai mewn barddoniaeth, wrth gwrs. Ond i eraill, mae Ellis yn symbol grymus o wastraffu doniau.
“Roedd ef yn un o’r 40,000 o ddynion yng Nghymru a laddwyd ac mae ef yn symbol o’r genhedlaeth goll honno, os hoffech chi ddweud hynny” dywedodd Rheolwr y Safle. “Mae’n amhosibl i bobl gofio pob unigolyn a laddwyd yn y rhyfel, ond mae ef yn symboleiddio colli potensial a phosibiliadau. Roedd ganddo’r potensial i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol; roedd un arall o’r 34 o ddynion lleol a laddwyd wedi gorffen ei brentisiaeth fel cigydd; ac un arall yn mynd i redeg siop feiciau ei hunan. Chawson nhw fyth mo’r cyfle hwnnw.”