Celts' Saturday night TV celebration - Tanni’s surprise visit to youth wheelchair basketball club
21st Mehefin 2012
Trowch i mewn i weld y Paralympiad ysbrydoledig Tanni Grey Thompson yn gwneud ymweliad arbennig â Chlwb Pêl-fasged Cadair Olwyn CELTS yng Nghaerdydd a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, er mwyn cynnal gweithdy unigryw gydag ieuenctid gobeithiol.
Gyda chwe mis i fynd cyn y Gemau Paralympaidd, bydd ymweliad Tanni yn ymddangos ar y teledu Ddydd Sadwrn (25 Chwefror 2012) ar Sioe Nos Sadwrn y Loteri Genedlaethol. Dyma un o gyfres o ffilmiau yn dangos yr ystod o brosiectau y mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn eu cefnogi trwy godi mwy na £30 miliwn bob wythnos dros achosion da.
Fe wnaeth Tanni, a aned yng Nghaerdydd, sef Pharalympiad mwyaf llwyddiannus Prydain gyda 11 medal aur Paralympaidd mewn rasio cadair olwyn a saith medal aur pellach ym Mhencampwriaethau’r Byd, annog aelodau ifanc a saethu rhai cylchoedd ei hun wrth iddynt hyfforddi.
Fe gyfarfu â chwaraewyr a'u teuluoedd o bob cwr o Dde-ddwyrain Cymru yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, ac fe gyflwynodd Wobr Chwaraewyr Dan 15 Oed sydd wedi Gwella Fwyaf i Daniel May, 9 oed o Gaerllion, y gwnaeth ef ei ennill ym Mhencampwriaeth Pêl-fasged Cadair Olwyn Cenedlaethol Iau.
Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn y CELTS yw'r clwb pêl-fasged cadair olwyn mwyaf yng Nghymru. Ddwy flynedd yn ôl fe wnaethant ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i sefydlu rhaglen iau - gan roi cyfle i blant o 3 oed i fyny i roi cynnig ar y chwaraeon cyffrous hwn. Mae'r clwb gweithgar hwn yn cefnogi pum tîm cystadleuol ac yn cynnal sesiynau hyfforddi wythnosol yng Nghaerdydd a Chaerffili, gan ddenu aelodau o bob cwr o Dde-ddwyrain Cymru. Mae'r tîm cyntaf yn Adran 2 yn y Bencampwriaeth Genedlaethol.
Dywedodd Tanni Grey Thompson: "Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gystadlu ym mhob cwr o'r byd, ond mae'n wych cael cwrdd â'n cenhedlaeth newydd o athletwyr yn fy nhref enedigol yng Nghaerdydd. Mae'n wych gweld y gwaith y mae'r clwb yn ei wneud, a'r pleser y mae'r holl bobl ifanc yn ei gael o gymryd rhan.
“Mae chwaraeon yn ffordd anghredadwy o feithrin hyder a sgiliau, a phwy a wyr, efallai bod gennym ddarpar Baralympiad yma. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwneud gwahaniaeth anferth ar lefel elit ac ar lawr gwlad o fewn chwaraeon. Yn amlwg mae arian y Loteri Genedlaethol y mae'r CELTS yn ei dderbyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r prosiect. Dylai unrhyw un sy'n chwarae'r Loteri deimlo'n falch o wybod bod eu harian yn helpu i ariannu prosiectau gwych sy'n gwneud gwahaniaeth positif i gynifer o fywydau."
Mae'r gwr a'r wraig Steve a Jo McGrath ill dau yn hyfforddi gyda Chlwb Pêl-fasged Cadair Olwyn CELTS ac yn gweithio fel Swyddogion Datblygu ar gyfer Chwaraeon Anabledd Cymru. Sefydlodd Jo y clwb ymron i 10 mlynedd yn ôl.
Dywed Jo McGrath : "Rydym wrth ein boddau ac wedi'n cyffroi o gael bod yn rhan o raglen nos Sadwrn y Loteri Genedlaethol. Mae'n wych cael cyfle i ddangos i bobl sy'n chwarae'r Loteri y gwahaniaeth y mae eu harian yn ei wneud i fudiadau fel ni. Mae ein harian y Loteri wedi ein helpu ni i hyfforddi fel hyfforddwyr a thyfu'r clwb, yn cynnig hwyl, cyfeillgarwch a ffitrwydd i ystod eang o bobl. Rydym yn falch iawn o lwyddiant y clwb."
Dywed Jon Morgan o Chwaraeon Anabledd Cymru, "Mae dros £3.4 miliwn o arian y Loteri wedi mynd tuag at chwaraeon anabledd yng Nghymru, gan helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial mewn clybiau megis CELTS."
Fe dderbyniodd Clwb Pêl-fasged Cadair Olwyn CETLS ei grant y Loteri Genedlaethol gan Chwaraeon Cymru, trwy raglen Gymunedol Chwaraeon Anabledd Cymru.