Friend of The National Lottery Chris Packham encourages us to go green
19th Ebrill 2021
Mae Chris Packham, y naturiaethwr ac ymgyrchydd amgylcheddol yn annog y cyhoedd i ddysgu sut y gallant fod yn wyrddach, yn dilyn ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan y Loteri Genedlaethol a ganfu fod 7 mewn 10 ohonom yn credu nad ydym yn gwneud digon i amddiffyn yr amgylchedd.
Dydy’r pandemig na gweithio o gartref ddim wedi helpu’r sefyllfa gyda nifer ohonom yn gaeth dan do. Rydym yn troi at dechnoleg ar gyfer adloniant sydd yn ei dro yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Mae cyfanswm o 73% yn cyfaddef eu bod yn defnyddio mwy o drydan oherwydd y cynnydd mewn gwylio teledu a defnyddio cyfrifiaduron, tra bo traen (34%) yn dweud eu bod yn troi eu system wresogi ymlaen mwy trwy gydol y dydd nag erioed o’r blaen.
Er gwaethaf yr ystadegau hyn, mae bron hanner (37%) y rheini a arolygwyd yn hyderus y bydd y byd yn lle gwyrddach er mwyn magu cenedlaethau’r dyfodol. Mae nifer wedi cyfaddef y byddant yn newid eu harferion er gwell wedi’r pandemig gyda cherdded mwy (40%) ar frig y rhestr, a defnyddio cludiant cyhoeddus yn hytrach na char a mynd ar wyliau yn lleol yn dod yn ail ar y cyd o fewn y rhestr (27%).
Ers 2011, mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £2.2 biliwn mewn prosiectau a mentrau gwyrdd ar draws y sectorau treftadaeth, celfyddydol, cymunedol a chwaraeon. Popeth o grwpiau cymunedol yn diogelu cynefinoedd naturiol i osodiadau celf yn addysgu pobl ifanc ar newid hinsawdd.
“It’s good that the public is being so honest about not doing enough to be environmentally friendly but it does surprise me the figure is so high, especially when it’s so easy to be green- it starts in our own homes and with our own behaviour. ‘The National Lottery has given a staggering amount of funding to help communities at a local and regional level to tackle climate change and its thanks to National Lottery players- who raise £30 million a week for good causes- that this work can happen. ‘If we do want to make the future a greener- and greater- place for future generations, we do really need to start changing our behaviour today.’
Chris Packham:
Mae’r Loteri Genedlaethol yn annog y cyhoedd i wneud cyfraniad hanfodol tuag at ddyfodol ein planed trwy wneud #AddunedByd ar gyfryngau cymdeithasol rhwng dydd Llun 19 Ebrill – 23 Ebrill. Mae’r #AddunedByd yn gyfle i chi wneud eich rhan dros yr amgylchedd trwy wneud ymrwymiad cydwybodol tuag at ddechrau neu roi’r diwedd i wneud rhywbeth a allai fod yn helpu neu niweidio ein planed.
I ddysgu mwy am y math o adduned y gallwch ei gwneud, mae Rosie Ramsay, y gomedïwraig a phodcastiwr yn cyfarfod â rhai o’r prosiectau a sefydliadau sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol tuag at fentrau gwyrdd dros y 10 mlynedd diwethaf. Bydd cyfres o ffilmiau’n cael eu rhyddhau pob diwrnod trwy gydol wythnos y 19 Ebrill ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Rosie ynghyd â thrwy @lottogoodcauses ar Instagram a Thrydar.
Perthynol
Planetary Promise