Job Vacancy: Head of Campaigns Pennaeth Ymgyrchoedd
30th Ionawr 2018
Part time (4 days per week)
Interview Date: 26 February 2018
Objectives of the Role
The National Lottery Promotions Unit (NLPU) is a small team responsible for promoting positive public awareness of National Lottery funding and the projects it supports.
This senior role will lead one of the NLPU’s Welsh campaigns and input into UK-wide campaigns as required – devising and delivering a full campaign plan to raise awareness of National Lottery funding against agreed objectives. The role will also be responsible for a small team.
Accountabilities:
Research target audiences, trends in their behaviour and identify impactful, engaging and innovative ways of reaching them.
Develop a set of objectives for your UK-wide campaign and evaluation criteria that go towards meeting the NLPU’s objectives, agreeing them with the NLPU Director, Management Board and senior stakeholders
Involve National Lottery stakeholders, including distributors, Camelot and DCMS, in the development of campaign plans – drawing on their funding expertise and best practice in communications.
Liaise with National Lottery funded projects to involve them in campaigns and to identify their life changing stories for use across The National Lottery’s channels.
Work on the other NLPU campaigns and be a key member of the NLPU’s Senior Management Team, working with the Unit's Director to set high standards and maintain a positive, can-do culture in a high performing unit.
Innovate across digital and traditional media so that the NLPU is at the cutting edge of industry best practice, fully exploiting the wide range of ways of communicating with National Lottery players.
Develop any web presence to support your campaign, writing a full specification and liaising with web and design agencies, if required.
Lead on the creation of digital content for your campaign by commissioning photography, infographics, film and other content.
Draft tender documents, running procurement exercises to identify external suppliers to support your campaign, overseeing high quality work from them and ensuring excellent value for money.
Be responsible for all your campaign spend, forecasting and accounting for it in line with the Big Lottery Fund's financial standards.
Although a key part of the NLPU team, the candidate will be happy to work remotely and feel able to deftly manage and inspire a range of stakeholders from across the National Lottery family.
Special working conditions
Ability to travel and carry out occasional work outside normal hours
Person Specification
Essential Experience knowledge and skills
An impressive record of achievement in at least one senior communications role.
Significant experience of leading, planning, co-ordinating and delivering complex communications campaigns for a range of audiences in a multi-channel environment.
Strong practical experience of content development, media relations, digital media, event management, filming, market research and insight, branding, evaluation and website development.
Excellent written and verbal communication skills and developed negotiation, organisational and influencing skills.
Significant experience of managing external suppliers and budgets and a track record of selecting and helping agencies to deliver high quality work, within deadline and to budget.
Excellent stakeholder management skills, a proven ability to influence senior stakeholders and an understanding of the challenges of working with large and small charities.
Attention to detail, advanced analytical and problem solving skills.
A strong ability to think creatively and to encourage others to.
Writes well for a range of materials from web copy to digital media content and press materials, briefing notes, Q and As etc.
A keen interest in and excellent knowledge of recent developments in digital and traditional media.
Experience of running large scale procurement exercises to public sector standards.
A good understanding of modern communications evaluation techniques and experience of commissioning research to inform a communications campaign.
Excellent IT skills, including Word, Outlook and Excel;
If the role is based in Wales, or supports customers or colleagues in Wales, an understanding of Welsh language legislation and the Welsh Language Standards of the Fund is required.
It is essential the post holder is bilingual in English and Welsh.
How to Apply
If you are interested in applying for this post please submit your CV and cover letter outlining your skills/experience for the role by clicking APPLY NOW.
Rhan-amser (4 diwrnod yr wythnos)
Dyddiad y Cyfweliad: 26 Chwefror 2018
Amcanion y Swydd
Mae Uned Hyrwyddo’r Loteri Genedlaethol (UHLG) yn dîm bach sy'n gyfrifol am hyrwyddo ymwybyddiaeth gyhoeddus gadarnhaol o grantiau'r Loteri Genedlaethol a'r prosiectau y mae'n eu cefnogi.
Bydd y swydd uwch hon yn arwain ar un o ymgyrchoedd Cymreig UHLG ac yn rhoi mewnbwn i ymgyrchoedd Deyrnas Unedig fel bo angen - dyfeisio a chyflwyno cynllun ymgyrch llawn i godi ymwybyddiaeth o grantiau'r Loteri Genedlaethol yn erbyn amcanion cytunedig. Bydd y rôl yn gyfrifol am dîm bach hefyd.
Cyfrifoldebau:
Ymchwilio i gynulleidfaoedd targed, tueddiadau yn eu hymddygiad ac adnabod dulliau uchel eu dylanwad, diddordeb ac arloesedd o'u cyrraedd.
Datblygu set o amcanion ar gyfer eich ymgyrch Deyrnas Unedig gyfan a meini prawf gwerthuso sy'n cyfrannu at gyflawni amcanion NLPU, gan gytuno arnynt gyda Chyfarwyddwr NLPU, y Bwrdd Rheoli a budd-ddeiliaid uwch.
Cynnwys budd-ddeiliaid y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys y dosbarthwyr, Camelot a DCMS, wrth ddatblygu cynlluniau ymgyrch - gan alw ar eu harbenigedd ariannu ac arfer gorau ym maes cyfathrebu.
Creu cysylltiadau â phrosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol i'w cynnwys mewn ymgyrchoedd ac adnabod storïau am sut mae eu bywydau wedi newid i'w defnyddio ar draws sianelau'r Loteri Genedlaethol.
Gweithio ar ymgyrchoedd eraill NLPU a bod yn aelod allweddol o Uwch Dîm Rheoli NLPU, gan gydweithio â Chyfarwyddwr yr Uned i bennu safonau uchel a chynnal diwylliant cadarnhaol a ‘barod i wneud’ mewn uned sy'n perfformio'n dda.
Arloesi ar draws cyfryngau digidol a thraddodiadol fel bod NLPU ar flaen y gad o ran arfer gorau'r diwydiant, gan fanteisio i'r eithaf ar yr ystod eang o ddulliau cyfathrebu â chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Datblygu unrhyw bresenoldeb gwe i gefnogi'ch ymgyrch, gan ysgrifennu manyleb lawn a chysylltu ag asiantaethau gwe a dylunio os bydd angen.
Arwain ar greu cynnwys digidol ar gyfer eich ymgyrch trwy gomisiynu ffotograffiaeth, ffeithluniau, ffilmiau a chynnwys arall.
Drafftio dogfennau tendro, gan redeg ymarferion caffael i adnabod cyflenwyr allanol i gefnogi'ch ymgyrch, goruchwylio gwaith o safon ganddynt a sicrhau gwerth rhagorol am arian.
Bod yn gyfrifol am wariant eich ymgyrch, gan ragamcanu a bod yn atebol amdano'n unol â safonau ariannol y Gronfa Loteri Fawr.
Er y byddwch yn ran allweddol o dîm UHLG, bydd yr ymgeisydd yn hapus i weithio o bell a bydd yn teimlo’n abl a medrus i reoli ac ysbrydoli amrywiaeth o fudd-ddeiliaid ledled teulu’r Loteri Genedlaethol.
Amodau gwaith arbennig
Y gallu i deithio a gwneud gwaith y tu allan i oriau arferol o bryd i'w gilydd
Manyleb Person
Profiad, gwybodaeth a sgiliau hanfodol
Hanes trawiadol o gyflawni mewn o leiaf un swydd gyfathrebu uwch.
Profiad sylweddol o arwain, cynllunio, cydlynu a chyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu cymhleth ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd mewn amgylchedd sianelau lluosog.
Profiad ymarferol cryf o ddatblygu cynnwys, cysylltiadau â'r cyfryngau, cyfryngau digidol, rheoli digwyddiadau, ffilmio, ymchwil a mewnwelediad marchnata, brandio, gwerthuso a datblygu gwefannau.
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a sgiliau cyd-drafod, sefydliadol a dylanwadu datblygedig.
Profiad sylweddol o reoli cyflenwyr allanol a chyllidebau, a chofnod o ddethol a helpu asiantaethau i gyflwyno gwaith o safon, o fewn terfynau amser a'r gyllideb.
Sgiliau rhagorol wrth reoli budd-ddeiliaid, galluoedd amlwg i ddylanwadu ar fudd-ddeiliaid uwch a dealltwriaeth o heriau cydweithio ag elusennau mawr a bach.
Sgiliau craffu manylder, dadansoddi a datrys problemau datblygedig.
Gallu cryf i feddwl yn greadigol ac annog eraill i wneud yr un peth.
Ysgrifennu'n dda ar gyfer ystod o ddeunyddiau o gopi gwe i gynnwys cyfryngau digidol a deunyddiau i'r wasg, nodiadau briffio, cwestiynau cyffredin etc.
Diddordeb brwd a gwybodaeth ragorol am ddatblygiadau diweddar mewn cyfryngau digidol a thraddodiadol.
Profiad o redeg ymarferion caffael graddfa fawr yn unol â safonau sector cyhoeddus.
Dealltwriaeth dda o dechnegau gwerthuso cyfathrebu modern a phrofiad o gomisiynu ymchwil i gyfeirio ymgyrch gyfathrebu.
Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys Word, Outlook ac Excel;
Os yw'r swydd wedi'i lleoli yng Nghymru, neu'n cefnogi cwsmeriaid neu gydweithwyr yng Nghymru, mae dealltwriaeth o ddeddfwriaeth y Gymraeg a Safonau'r Gymraeg yn orfodol.
Mae’n hanfodol bod deiliad y swydd yn ddwyieithog mewn Cymraeg a Saesneg.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio am y swydd hon, gyrrwch eich CV a llythyr esboniadol sy’n disgrifio’ch sgiliau/profiad ar gyfer y rôl drwy roi cli car CYFLWYNO CAIS.