Kate Humble surprises charity with National Lottery Award
21st Awst 2013
Daeth y cyflwynydd natur ar y teledu Kate Humble ar ymweliad annisgwyl heddiw â Phont y Werin yng Nghaerdydd i longyfarch staff a chefnogwyr Connect2 Sustrans ar ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol.
Fe gurodd yr elusen gystadleuaeth gref gan chwe sefydliad er mwyn sicrhau 10,362 o bleidleisiau'r cyhoedd a chael eu coroni yn hoff brosiect Amgylcheddol y genedl yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni - yr ymgais blynyddol i ganfod hoff achosion da'r genedl a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Cyflwynodd Kate y wobr i Malcolm Shepherd, Prif Weithredwr Sustrans, ar Bont-y-Werin, pont dros Afon Elai sy'n cysylltu Bae Caerdydd a Phenarth. Daeth ar ymweliad annisgwyl â'r wobr yn ystod cyfnod Caerdydd o'u dathliadau Pedal On UK. Siaradodd hefyd â phobl leol sy'n defnyddio'r bont yn rheolaidd, megis pobl yn mynd â'u cŵn am dro, beicwyr a phobl ar eu ffordd i'r gwaith.
Yn ystod ei hymweliad dywedodd Kate Humble: “Mae'n galonogol gweld Connect2 Sustrans yn ennill y wobr hon ac yn derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith pwysig y maen nhw'n ei wneud gydag arian y Loteri. Mae Connect2 wedi galluogi i filiynau o bobl o bob cwr o'r DU wneud eu siwrneion dyddiol ar droed neu ar y beic, gan eu helpu i ddewis siwrneion mwy iachus, glân a rhatach. Gobeithiaf y bydd y wobr hon yn annog pobl i fynd allan a chysylltu â'n hamgylchedd prydferth.”
Cafodd Malcolm Shepherd, Prif Weithredwr Sustrans, ei synnu o weld y cyflwynydd teledu yn cyrraedd digwyddiad Pedal On UK yr elusen y bore yma. Dywedodd: “Rwyf wedi fy nghyffroi i dderbyn y wobr hon, ac roedd hi'n hyfryd cwrdd â Kate heddiw, gan ei bod mor ymwybodol o'r gwahaniaeth anferth y mae'r Rhwydwaith hwn yn ei wneud.
“Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi caniatáu i ni i ymgymryd â'r prosiect uchelgeisiol hwn a dim ond trwy werthiant tocynnau'r Loteri y mae hynny'n bosibl, felly dymunaf ddiolch i'r cyhoedd gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sefydliadau fel ein un ni trwy chwarae'r gêm bob wythnos.
“Mae'r wobr hefyd yn gydnabyddiaeth gyhoeddus wych i'r cannoedd ar gannoedd o bobl sydd wedi gweithio neu wirfoddoli yn eu cymunedau lleol i helpu i gyflwyno'r prosiect llwyddiannus hwn. Er mwyn dangos ein diolchgarwch i'r cymunedau lleol hyn, bydd Sustrans yn defnyddio'r wobr ariannol yn ychwanegol at arian arall, i ddyfarnu grantiau lleol i'r cymunedau yn agos at y llwybrau sydd wedi helpu i sicrhau bod beicio a cherdded yn haws ac yn fwy diogel er mwyn annog ymhellach teithio ar droed ac ar y beic yn eu hardal."
Mae Kate Humble, sy'n byw ym Mrynbuga, Sir Fynwy, yn fwyaf cyfarwydd fel cyflwynydd rhaglenni natur gan gynnwys Springwatch, Autumnwatch, Wild in Africa a Sea Watch.
Nodiadau i olygyddion
Ynglŷn â'r prosiect:
Mae prosiect Connect2 Sustrans wedi gweddnewid y ffordd y mae cymunedau ar draws y DU yn teithio trwy alluogi i bobl ddewis siwrneion mwy iach, glân a rhatach.
Mae Arian y Loteri Genedlaethol o £50 miliwn wedi helpu'r prosiect i greu pontydd a chroesfannau newydd sy'n osgoi ffyrdd prysur, afonydd a rheilffyrdd. Mae'r rhain yn cysylltu â rhwydweithiau o lwybrau cerdded a beicio, gan ei gwneud hi'n haws i filiynau o bobl gerdded a beicio ar gyfer siwrneion dyddiol i siopau, gwaith, ysgolion ac â'i gilydd.
Mae prosiect Connect2 Sustrans wedi creu 84 o rwydweithiau cerdded a beicio newydd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gyda 80 o groesfannau ffordd diogel newydd a dros 100 o bontydd newydd neu wedi'u hadnewyddu, wedi'u cyflwyno dros bum mlynedd rhwng 2008 a 2013. Ym mhob achos mae Sustrans wedi gweithio gydag awdurdodau lleol, y gymuned leol a nifer o bartneriaid eraill i adnabod, cynllunio ac adeiladu'r cynlluniau i fodloni anghenion eu cymunedau. Mae nifer o'r pontydd a'r croesfannau newydd wedi dod yn dirnodau yn dathlu hunaniaeth a diwylliant lleol, ac yn dwyn cymunedau ynghyd.
Ynglŷn â'r Gwobrau:
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £35 miliwn yr wythnos ac mae'r arian hwnnw yn mynd i gefnogi pobl a phrosiectau ar draws y DU. Mae'r Gwobrau yn ffordd wych i ddangos i chwaraewyr y Loteri ble y mae eu harian yn mynd a'r gwahaniaeth aruthrol y mae chwarae'r Loteri bob wythnos yn ei wneud i gymunedau ar draws y DU.
Mae saith categori i'r Gwobrau, gyda phob un yn adlewyrchu prif feysydd ariannu'r Loteri: y celfyddydau, yr amgylchedd, addysg, iechyd, treftadaeth, chwaraeon, a gwirfoddol/elusennol.
Bydd Connect2 Sustrans a chwech o enillwyr eraill yn cael eu dathlu mewn seremoni arbennig yn llawn enwogion a ddarlledir ar BBC One ar 11 Medi. Bydd enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 i wario ar eu prosiect ynghyd â tharian Gwobrau'r Loteri Genedlaethol.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Jackie Aplin ar 029 20678278 / 07917 791873/ jackie.aplin@achosiondayloteri.org.uk