The National Lottery and Sir Matthew Pinsent present the 'Class of 2012'
21st Mehefin 2012
Daeth athletwyr sy'n gobeithio cystadlu ar dir cartref y flwyddyn nesaf at ei gilydd gydag un o athletwyr gorau erioed y Gemau Olympaidd i ail-greu llun ysgol i gynrychioli 'Dosbarth 2012' y Loteri Genedlaethol. Ers i arian y Loteri ddechrau ym 1994, mae 438 o fedalau Olympaidd a Pharalympaidd wedi'u hennill gan athletwyr o Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Loteri Genedlaethol hefyd yn buddsoddi £2.2 biliwn yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 ac mae chwaraewyr y Loteri yn galluogi i 1,200 o athletwyr elit i hyfforddi i'r safonau rhyngwladol uchaf.
Heddiw fe wnaeth y Pennaeth Syr Matthew Pinsent groesawu'r athletwyr gan roi araith ysbrydoledig iddynt yn Ysgol y Ddinas eiconig yn Llundain, sy'n ymffrostio mewn neuadd ysgol hanesyddol ble cafodd llun y dosbarth ei greu.
Dywedodd yr arwr rhwyfo, "Mae'n anrhydedd i mi allu dathlu buddsoddiad y Loteri Genedlaethol gyda'r athletwyr talentog hyn sy'n gobeithio disgleirio'r flwyddyn nesaf. Beijing 2008 oedd ein Gemau Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed ac rwy'n ffyddiog y gall ein hathletwyr cyfredol wneud hyd yn oed yn well yn Llundain. Mae'r Loteri wirioneddol wedi bod yn gatalydd am newid yn llwyddiant chwaraeon Prydain. Mae arian y Loteri wedi cael effaith aruthrol ar bob lefel o chwaraeon, gan weddnewid parciau a chyfleusterau chwaraeon a chaniatáu i glybiau lleol i ffynnu ar draws y DU."
Dywedodd medalydd Aur Paralympaidd, y nofiwr Liz Johnson o Gasnewydd, “Diolch i chwaraewyr y Loteri, rydym yn paratoi ar gyfer yr arholiadau mwyaf yn ein gyrfaoedd chwaraeon. Roedd hi'n wych clywed drosom ein hunain am brofiadau Syr Matthew Pinsent yn y Gemau Olympaidd; rydym wedi cael gwers ysbrydoledig yma heddiw.”
Bydd pencampwr saethyddiaeth y Gemau Gymanwlad Danielle Brown yn edrych i amddiffyn ei theitl Paralympaidd os bydd yn cael ei dewis ar gyfer ParalympicsGB a dywedodd, “Hoffwn i chwaraewyr y Loteri sylweddoli sut y mae eu harian wedi gwireddu ein huchelgeisiau chwaraeon. Mae fy holl gyd-ddisgyblion yn benderfynol o sicrhau bod chwaraewyr y Loteri yn falch o Ddosbarth 2012."
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi £27 biliwn ar gyfer Achosion Da ers i'r Loteri ddechrau ym 1994. Mae dros £6 biliwn wedi'i fuddsoddi mewn chwaraeon.
Am wybodaeth bellach ar arian y Loteri Genedlaethol, ewch i www.achosiondayloteri.org.uk