Skip to main content

National Lottery Awards 2015

18th Chwefror 2015

Mae’r daith i ddod o hyd i hoff brosiectau’r DU sydd wedi eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol yn cychwyn heddiw wrth i gyfnod cystadlu am Wobrau’r Loteri Genedlaethol ddechrau.

Dyma 12fed flwyddyn Gwobrau’r Loteri Genedlaethol ac maen nhw’n dathlu gwaith caled ac ymroddiad y bobl sy’n defnyddio arian y Loteri i newid bywydau pobl.

Bydd y cyhoedd yn pleidleisio dros yr enillwyr fydd yn mynychu seremoni yn llawn enwogion fydd yn cael ei ddangos ar BBC One. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd glywed am brosiectau bach a mawr sydd wedi elwa o arian y Loteri Genedlaethol. Bydd enillwyr hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £2,000 i wario ar eu prosiect.

John Barrowman oedd cyflwynydd seremoni’r llynedd, gyda gwesteion arbennig Ella Henderson a Pixie Lott. Roedd llu o gefnogwyr enwog yno hefyd yn cynnwys John Torode, Bianca Jagger a Larry Lamb. Ond nid yr enwogion sy’n cael y sylw yn y seremonïau hyn. Sêr y sioe mewn gwirionedd yw’r arwyr tawel sy’n defnyddio arian y Loteri i drawsnewid eu cymunedau a newid bywydau drwy gyfrwng eu prosiectau.

Meddai John Barrowman, cyflwynydd sioe Gwobrau’r Loteri Genedlaethol y llynedd:

“Dylai pawb sy’n chwarae’r Loteri Genedlaethol deimlo’n falch o’r gwahaniaeth anhygoel y maen nhw’n ei wneud i’r gymuned leol. Maen nhw’n codi swm enfawr o £33 miliwn bob wythnos ar gyfer amrywiaeth enfawr o brosiectau sy’n newid bywydau. Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle i ddathlu gwaith gwych prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Loteri. Os ydych chi’n gwybod am brosiect arbennig sy’n haeddu disgleirio, enwebwch nhw am Wobr.”

Gall unrhyw sefydliad sydd wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol gystadlu am Wobrau’r Loteri Genedlaethol 2015. Mae saith categori i adlewyrchu’r amrywiaeth o feysydd sy’n cael eu hariannu gan y Loteri – Chwaraeon, Treftadaeth, y Celfyddydau, yr Amgylchedd, Iechyd, Addysg a Gwirfoddol/Elusennol.

Os ydych chi am enwebu eich hoff brosiect neu eich prosiect eich hun ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk neu ffoniwch 0207 293 3599 i gael gwybod mwy. Rhaid i’r holl enwebiadau gael eu derbyn erbyn hanner nos ar 25 Mawrth.