National Lottery players raise £179 million Jackpot for the Nation
24th Chwefror 2016
Bydd Prydain yn datblygu llawer yn fwy o dalent, diolch i fis o dorri bob record gan y Loteri Genedlaethol.
Cododd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol swm aruthrol o £179 miliwn dros brosiectau celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol ym mis Ionawr - y cyfanswm uchaf erioed a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol o fewn un mis. Roedd hyn o ganlyniad i werthiannau cryf ar draws pob gêm y Loteri Genedlaethol ac, yn benodol, lefel na welwyd mo'i thebyg o'r blaen o alw am docynnau'r Loto, yn bennaf o ganlyniad i'r jacpot yn cael ei ddwyn ymlaen sawl wythnos yn olynol gan arwain at jacpot Loto o £66 miliwn. Mae £85 miliwn ychwanegol yn cael ei dalu i'r Llywodraeth yn Nhreth y Loteri ar gyfer mis Ionawr.
Dywedodd John Whittingdale, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon: “Mae hyn yn newyddion arbennig. Bydd mis o dorri bob record y Loteri Genedlaethol yn gwneud gwahaniaeth anferth i gymunedau ar draws y DU. Bydd yn golygu mwy o fuddsoddiad yn ein safleoedd diwylliannol a threftadaeth, cyfleusterau chwaraeon gwell a mwy o gefnogaeth i sefydliadau gwirfoddol."
Dathlodd Alesha Dixon, un o feirniaid Britain’s Got Talent, y newyddion hyn yn Amgueddfa Jimi Hendrix yn Llundain, sydd wedi'i hadnewyddu a'i hailagor i'r cyhoedd yn ddiweddar, diolch i £1.2 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dywedodd Alesha Dixon: “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi ysgrifennu siec anferth i'r genedl. Dylai pawb sy'n chwarae'r Loteri Genedlaethol fod yn falch eu bod yn cefnogi cynifer o bobl, o bob oed, i ddatblygu'u talentau."
Cafodd Alesha gwmni grŵp o bobl dalentog o ystod amrywiol o brosiectau a ariennir gan y Loteri gan gynnwys cerddorion ifanc, gymnastwr, dawnsiwr cyfoes, a hyfforddwr tai chi sy'n dysgu pobl hŷn.
Fe ddatblygodd angerdd Nathan Dawkins, 12 oed, dros chwarae'r gitâr yn World Heart Beat Music Academy yn Wandsworth, sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol i ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni rhagoriaeth mewn cerddoriaeth.
Dywedodd Nathan: “Mae mynd i'r World Heart Beat Academy yn rhan fawr o fy mywyd, ac rwy'n edrych ymlaen at fynd. Rwy'n teimlo'n dda wrth chwarae'r gitâr. Rwyf hefyd wedi gwneud ffrindiau gyda chymaint o gerddorion a chyfansoddwyr caneuon talentog ac wedi dysgu cymaint am gerddoriaeth a bywyd yn gyffredinol. Mae cwrdd ag Alesha a dysgu mwy am waith Jimi Hendrix yn golygu bod heddiw yn ddiwrnod arbennig iawn i mi."
Dywedodd Mary Callaghan, 68 oed, a hyfforddwr tai chi gydag Open Age, sy'n hyrwyddo bywyd heini i bobl hŷn: “Oherwydd yr arian gan y Loteri Genedlaethol gall elusennau megis Open Age ddarparu amrywiaeth o ddosbarthiadau i bobl hŷn. Mae mynychu dosbarth ymarfer yn golygu llawer yn fwy na chadw'n heini, mae'n creu synnwyr o les, rhoi cyfle iddynt greu cyfeillgarwch newydd ac mae'n cyfoethogi gweddill yr wythnos. Diolch i'r Loteri Genedlaethol am helpu i roi gwên ar wyneb cymaint o bobl."
Yn ymuno â hwy oedd Gaius (Jay) Thompson, gymnastwr 19 oed o Basildon, un o'r 1,300 o athletwyr sy'n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae ef o'r farn bod £179 miliwn yn rhoi hwb ariannol sy'n cael ei groesawu yn fawr gan athletwyr ar drothwy Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio.
Dywedodd Jay: “Mae arian y Loteri Genedlaethol yn rhoi'r hyfforddiant, y gefnogaeth feddygol a'r cyfleusterau gorau i ni. Mae wedi bod yn rhan fawr o fy llwyddiant. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol mae ein hathletwyr yn cael y paratoad gorau i fynd am yr aur yn Rio."
Cyfarfu Alesha hefyd â Connor Scott, 17 oed o Blyth yn Northumberland, enillydd Dawnsiwr Ifanc y BBC yn 2015. Hyfforddodd Connor gyda'r National Youth Dance Company (NYDC), sydd wedi'i leoli yn Sadler’s Wells, yn 2014-15. Mae NYDC a Sadler’s Wells wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Connor: “Mae arian y Loteri Genedlaethol yn hanfodol i lwyddiant y celfyddydau yn y wlad hon. Mae'n ariannu dawns, cerddoriaeth a gofodau theatr gwych, gan roi cyfle i ddawnswyr eraill fel fi i ddatblygu ein hunain fel artistiaid. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am roi cyfleoedd mor wych i'r celfyddydau."
Nodiadau i olygyddion
Ar gyfartaledd, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £34 miliwn dros brosiectau celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol ar draws y DU bob wythnos.
Hyd yma mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu dros £57 biliwn o wobrau ac wedi creu mwy na 4,000 o filiwnyddion neu aml-filiwnyddion ers ei lansio yn 1994.
Camelot UK Lotteries Limited yw gweithredwr trwyddedig y Loteri Genedlaethol. Ymhlith gemau'r Loteri Genedlaethol y mae Lotto, EuroMillions a chyfres y GameStore o Gardiau Crafu ac Instant Win Games ar-lein.
Mae'r Senedd wedi pennu y dylid dyfarnu'r arian i'r sectorau yn ôl y canrannau hyn: celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth 20 y cant yr un a 40 y cant i'r sector gwirfoddol.
Mae arian a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddosbarthu gan 12 o ddosbarthwyr y Loteri Genedlaethol:
Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, Cyngor Celfyddydau Cymru, British Film Institute (BFI), Y Gronfa Loteri Fawr, Creative Scotland, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sport England, Sport Northern Ireland, SportScotland, Chwaraeon Cymru, UK Sport.
Mae'r World Heart Beat Music Academy wedi derbyn dros £160,000 gan Arts Council England trwy bum grant. Mae Open Age wedi derbyn mwy na £400,000 gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae Sadler’s Wells wedi derbyn dros £47 miliwn o ariannu gan Arts Council England.
Am ragor o wybodaeth ar arian y Loteri Genedlaethol cysylltwch ag Uned Hyrwyddiadau'r Loteri Genedlaethol ar 020 7211 3894.
Am ragor o wybodaeth ar werthiannau, enillwyr a gemau'r Loteri Genedlaethol cysylltwch â Camelot ar 0207 632 5711.