The National Lottery's portrayal of local war veteran to rouse nation
21st Mehefin 2012
Mae gweithredoedd dewr y cyn-filwr rhyfel o Ddyfnaint wedi ysbrydoli hysbyseb deledu cenedlaethol ar gyfer Achosion Da'r Loteri Genedlaethol, sy'n dangos sut y mae arian y Loteri yn newid bywydau er gwell ar draws y DU.
Ymladdodd Jack Jennings, 93, o Torquay yn y jyngl yn Asia a gweithiodd ar Reilffordd Burma fel carcharor rhyfel cyn mynd ar daith emosiynol yn ôl yn ddiweddarach yn ei fywyd, diolch i arian y Loteri Genedlaethol.
Stori emosiynol Jack oedd y man cychwyn i Gyfarwyddwr Hollywood, John Hillcoat, i greu'r hysbyseb ar gyfer y sgrin fechan.
Mae'n rhan o'r ymgyrch 'Y Loteri Genedlaethol - Newid Bywyd', a ddarlledir yn genedlaethol yn ystod mis Mawrth, sy'n anelu at godi mwy o ymwybyddiaeth y cyhoedd o sut y mae cymunedau yn elwa o arian y Loteri Genedlaethol.
Bydd hysbysebion yn y wasg genedlaethol yn hyrwyddo ystod a graddfa eang ariannu'r Loteri Genedlaethol. Bydd cyfeiriadur ar-lein newydd hefyd yn annog pobl i weld drostynt eu hunain sut y mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gweddnewid eu cymuned eu hunain.
Mae dros £27 biliwn wedi mynd at 370,000 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol, prosiectau celfyddydau, addysg, chwaraeon, treftadaeth, yr amgylchedd ac iechyd ar draws y DU ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994. Yn eu plith y mae Torquay’s Disabled Sailing Association, The Babbacombe Cliff Railway a'r Devon Art Society yn Torbay.
Mae Jack Jennings yn un o 51,000 o bobl sydd wedi mynd ar deithiau coffaol trwy gynlluniau Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Peter Wanless, Cadeirydd Fforwm y Loteri Genedlaethol, y bydd yr ymgyrch newydd yn helpu pobl i ddeall yn well y gwahaniaeth y mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud:
“Mae'r hysbyseb deledu deimladwy hon yn ein hatgoffa o'r ebyrth y gwnaeth Jack Jennings a'i gymrodyr dros y genedl hon. Mae hefyd yn cyfleu pwysigrwydd arian y Loteri Genedlaethol i fywydau go iawn. Dylai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol deimlo'n falch eu bod wedi helpu Jack Jennings a channoedd o bobl yn eu cymuned eu hunain. Mae arian y Loteri Genedlaethol yn newid bywydau ar hyd a lled Prydain."