Mae cyflwynydd rhaglen y Loteri Genedlaethol a’r fam newydd, Jenni Falconer, yn galw ar bobl Cymru i enwebu Achosion Da lleol ar gyfer Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2012 - yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff brosiectau'r DU a ariennir gan y Loteri.
Mae ffigurau newydd yn datgelu bod dros £117 miliwn o arian Achosion Da'r Loteri wedi'i ddyfarnu yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Mae Jenni yn annog unrhyw fudiad - boed yn fawr neu'n fach - sydd wedi derbyn arian y Loteri i gystadlu yn y Gwobrau.
Dywed Jenni: “Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £30 miliwn rhyfeddol bob wythnos dros Achosion Da. Mae amrywiaeth drawiadol o brosiectau a ariennir gan y Loteri wedi cyffwrdd â bywydau cymaint yng Nghymru. Er enghraifft, mae arian y Loteri yn cefnogi cyn-filwyr y rhyfel, yn helpu plant bregus ac yn gweddnewid parciau a chyfleusterau chwaraeon lleol.
"Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cydnabod yr arwyr tawel, y gwirfoddolwyr anhunanol a'r gweithwyr ymrwymedig sy'n gwella bywydau gydag arian y Loteri. Yn llythrennol mae miloedd o brosiectau a ariennir gan y Loteri ar draws y DU yn haeddu cydnabyddiaeth. Felly os ydych chi'n gwybod am brosiect sy'n cael effaith neilltuol yn eich cymuned, dymunwn glywed gennych chi."
Bydd y prosiectau a fydd yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol mewn digwyddiad yn llawn enwogion, a ddarlledir ar BBC One, yn ddiweddarach eleni. Byddant hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr ariannol o £2000.[2]
Mae Michelle Lenton-Johnson o Bryncynon Strategy, yn adleisio neges Jenni wrth annog prosiectau a ariennir gan y Loteri i gymryd rhan. Enillodd Green Valley Centre yr elusen y categori Prosiect Amgylcheddol Gorau yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol 2011. Dywed Michelle: “Roedd cymryd rhan yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol y llynedd yn brofiad gwych. Roedd derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol o'n gwaith yn hwb gwirioneddol i'n staff, ein gwirfoddolwyr a'r teuluoedd yr ydym yn eu cefnogi - roedd yr awyrgylch yn rhyfeddol! Yn sicr fe fyddem yn annog mudiadau eraill a ariennir gan y Loteri i gymryd rhan waeth pa mor fawr neu fach ydynt. Mae'n gyfle gwych i ddangos y gwahaniaeth positif y mae'ch prosiect yn ei wneud gydag arian y Loteri.”
Mae saith categori i Wobrau'r Loteri Genedlaethol - gyda phob un yn adlewyrchu maes ar ariannu'r Loteri: Celfyddydau, Addysg, Amgylcheddol, Iechyd, Treftadaeth, Chwaraeon a Gwirfoddol/Elusennol.
Os dymunwch weld prosiect o Gymru yn cael ei ddathlu yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, neu os ydych chi'n gysylltiedig â phrosiect a ariennir gan y Loteri ac eisiau'i enwebu, ewch i www.nationallotteryawards.org.uk i gael gwybod mwy neu ffoniwch 0207 293 2128. Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn 12 hanner dydd, Dydd Llun 12 Mawrth 2012.