Thanks a Lotto! - £1.5 billion to UK projects
3rd Chwefror 2016
3 Chwefror 2016
Mae ffigurau a ryddhawyd yn ddiweddar yn dangos bod mwy na £1.5 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi'i ddyfarnu ar hyd a lled y DU y llynedd yn unig.
Dosbarthwyd 22,500 o grantiau'r Loteri ar draws y DU y llynedd; gan roi hwb hanfodol i brosiectau celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth ochr yn ochr â grwpiau cymunedol gan helpu'r rhai mwyaf anghenus.
Dyfarnwyd grantiau i ystod eang o brosiectau yn 2015, o £100 i Glwb Bowlio Athletaidd Pontyclun i £33.2 miliwn i'r Ymddiriedolaethau Natur. Roedd mwyafrif y grantiau am £10,000 neu lai gan gynnwys:
- £4,400 i Rwydwaith Datblygu Chwaraeon Belfast i ddatblygu sesiynau hyfforddi ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd o bob cwr o'r ddinas.
- £5,000 i BulliesOut yng Nghaerdydd i roi cyfle i lysgenhadon ifanc o Dde Cymru ennill gwobr cyrhaeddiad ieuenctid.
- £9,400 i Printing Past Study Group Watford ar gyfer arddangosfa i ddathlu treftadaeth argraffu'r dref.
- £9,960 i Greater Easterhouse Supporting Hands yng Nglasgow sy'n rhedeg canolfan gymunedol a chlwb cymdeithasol sy'n darparu ar gyfer unigolion ag anableddau.
O heddiw ymlaen, mae gan y prosiectau hyn, neu unrhyw sefydliad sydd erioed wedi derbyn arian y Loteri, gyfle i ennill cydnabyddiaeth ledled y wlad trwy gystadlu yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2016.
Bydd enillwyr Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn ennill gwobr ariannol o £3,000 a chydnabyddiaeth genedlaethol mewn seremoni fawreddog a ddarlledir ar BBC One ym mis Hydref.
Dywedodd John Barrowman, cyflwynydd sioe Gwobrau'r Loteri Genedlaethol y llynedd: “Mae Gwobrau'r Loteri Genedlaethol yn cynnig cyfle heb ei ail i brosiectau neilltuol serennu. Os allwch chi feddwl am brosiect gwych a ariennir gan y Loteri, enwebwch hwy am Wobr.
“Ariennir yr holl brosiectau gwych hyn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol - dylai bob un ohonoch fod yn falch eich bod yn codi swm rhyfeddol o £34 miliwn yr wythnos, sy'n rhoi cefnogaeth y mae ei hangen yn fawr ar waith sy'n newid bywydau."
Dosbarthir Gwobrau'r Loteri Genedlaethol ar draws saith categori: Chwaraeon, Treftadaeth, Celfyddydau, Amgylcheddol, Iechyd, Addysg a Gwirfoddol/Elusennol, i adlewyrchu ystod y prosiectau y mae'r Loteri yn eu cefnogi.
Gallai'r rhai a enwebir eleni ddilyn yn ôl-troed enillwyr y llynedd megis 1625 Independent People o Fryste a enillodd y Wobr Gwirfoddol/Elusennol neu The Ministry of Stories yn Nwyrain Lloegr a gipiodd y wobr am y Prosiect Celfyddydau Gorau yn y DU.
Os dymunwch enwebu'ch hoff brosiect yng Ngwobrau'r Loteri Genedlaethol eleni, anfonwch neges drydar at @LottoGoodCauses gyda'ch awgrymiadau neu ffoniwch 0207 293 3599 i gael gwybod mwy a chymryd rhan. Rhaid derbyn ceisiadau cyn hanner nos ar 9 Mawrth 2016.
-DIWEDD-
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â:
Nicola Bligh yn Uned Hyrwyddiadau'r Loteri Genedlaethol ar 0207 211 3894 neu e-bost Nicola.Bligh@lotterygoodcauses.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i Olygyddion:
- Rhaid i brosiectau sy'n cael eu henwebu lanw ffurflen gais Gwobrau'r Loteri Genedlaethol 2016
- Bydd prosiectau ar y rhestr fer yn wynebu pleidlais y cyhoedd yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn i bennu'r enillydd. Bydd yr holl bleidleisiau yn cael eu gwirio'n annibynnol
- Ers i'r Loteri Genedlaethol ddechrau ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri wedi codi dros £34 biliwn dros brosiectau ac mae dros 450,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ar draws y DU
- Am ragor o wybodaeth am brosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol neu Wobrau'r Loteri Genedlaethol ewch i www.achosiondayloteri.org.uk a dilynwch y pleidleisio ar twitter: @LottoGoodCauses #NLAwards