Skip to main content

The Wisdom of Elders

1st Rhagfyr 2020

Yr Athro Uzo Iwobi OBE,

Sylfaenydd,

Race Council Cymru,

Cymru

Uzo Iwobi

Pan welodd yr Athro Uzo Iwobi OBE ddelweddau o bobl a fu farw o Covid-19 yn ôl ym mis Mawrth, dechreuodd weld arwyddion rhybuddiol a theimlo’n bryderus. Mynegodd bryderon mewn sgwrs anffurfiol ag arweinwyr lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys ei gŵr sy’n ddarlithydd y gyfraith – roeddynt oll yn trafod y materion hyn a’r nifer anghymesur gweladwy o ddelweddau o bobl o leiafrifoedd ethnig ar eitemau newyddion ar y teledu.

Mae lleiafrifoedd ethnig yn cyfrif am tua 5% o’r boblogaeth yng Nghymru, ond roedd y bobl o liw ar sgrîn y teledu – y ffisigwyr a meddygon, swyddogion rheng flaen y GIG, gweithwyr hanfodol – o Gefndiroedd Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).

Daeth y gyfreithwraig a leolir yn Abertawe sy’n athro mewn arfer yn UWTSD i gysylltiad yn ddi-oed gyda’r Barnwr Ray Singh CBE, cadeirydd Race Council Cymru (RCC), i drafod y gwahaniaeth. Sefydlwyd y Cyngor – a sylfaenwyd gan Uzo yn 2010 – gyda’r genhadaeth o ddod â’r prif sefydliadau yng Nghymru ynghyd i gydweithredu ar hyrwyddo integreiddio a eirioli dros gyfiawnder a chydraddoldeb hiliol o fewn sefydliadau a chymdeithas.

Roedd Race Council Cymru wedi helpu i gasglu busnesau arbenigol, y gwyddorau cymdeithasol ac ymgynghorwyr meddygol a chyfreithiol ynghyd i gyflwyno gwybodaeth ar gyfer pwyllgor ymgynghorol BAME Covid 19 y Prif Weinidog a gadeiriwyd gan y Barnwr Singh CBE. Aeth yr isgrwpiau ati i archwilio ffactorau genetig a chymdeithasol-economaidd sy’n effeithio ar bobl BAME gan eu gwneud yn fwy tebygol o ddal y feirws i helpu deall ac atal lledaeniad y feirws. Yn ystod yr amser hwn, canfu Uzo ei bod yn bwysig gwirfoddoli ei gwasanaethau a’i harbenigedd i gefnogi cymunedau BAME ar lawr gwlad oedd yn teimlo effeithiau’r sioc yn enbyd o ganlyniad i farwolaethau sydyn trwy Covid.

Trwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, roedd RCC hefyd yn gallu casglu ac adrodd hanesion pobl ifanc o gefndiroedd ethnig amrywiol trwy’r prosiect Cerddoriaeth a Threftadaeth yn Croesi Ffiniau a oedd yn cefnogi pobl ifanc trwy’r pandemig dan arweiniad Ify’ Iwobi. Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi ariannu’r Prosiect Windrush sef “Our Voices, Our Stories, Our History”, oedd yn amlygu cyfraniadau mudwyr Winrush, sy’n ffurfio rhan o’i deulu a’i fwrdd gan y bu farw llawer ohonynt yn ystod y pandemig, gan gynnwys un o aelodau hŷn Windrush Cymru sef Donna Campbell. Mae hefyd yn cyflwyno cefnogaeth i’r rheini sydd mewn angen penodol, megis yr henoed.

"Ein hangen di-oed oedd cofleidio’r teuluoedd a oedd mewn profedigaeth,” nododd Uzo. “Aethom ati i gasglu arian i gael blodau ar eu cyfer, gan sicrhau ein bod yn eu galw a chysylltu, sicrhau eu bod yn iawn, cysylltu gyda’u heglwysi a grwpiau cefnogi teuluoedd.

"Roedd nifer ohonynt wedi dod yn gwbl ynysig, roedd llawer iawn o orbryder a straen heb unrhyw deulu agos yn eu hamgylchynu. Roedd angen i ni sicrhau fod Race Council Cymru yn creu amgylchedd croesawgar ymysg cymunedau ar lawr gwlad, gan ddosbarthu parseli bwyd a gwneud beth bynnag yr oedd pobl ei angen oddi wrthym. Roedd angen gwneud hyn oll tra’r oeddem yn gwneud gwaith strategol ar lefel uchel.”

Roedd Uzo ei hunan wedi trefnu nifer o sesiynau Zoom ar draws Cymru i helpu cymunedau BAME ar lawr gwlad i fynegi eu hofnau a phryderon, gan helpu gyda sgiliau digidol nifer o bobl hŷn hefyd i fynd ar-lein a darparu cwtshys rhithwir ar draws y rhyngrwyd. Aeth ati i greu grŵp cefnogaeth WhatsApp Covid-19 BAME ar gyfer bron 100 o arweinwyr led led Cymru a grŵp WhatsApp ar gyfer oddeutu 150 o sefydliadau lleiafrifoedd ethnig amrywiol i rannu cefnogaeth, arfer gorau a dysgeidiaeth.

Cafodd y gyfreithwraig/ bargyfreithwraig ac ymarferydd cydraddoldeb hynod nodedig o Brydain-Nigeria “ei chyffwrdd yn fawr, gan deimlo’n wylaidd, y byddai pobl hyd yn oed yn ymddiried ynof i helpu yn eu bywydau” tra’n dioddef o golledion ei hunan, gyda chydweithwyr a chyd ymgyrchwyr hirhoedlog megis Donna Campbell a Brian Mfula ill dau yn marw tra’n gwasanaethu ar linellau rheng flaen y GIG, ynghyd ag Angela Barnes Is-gadeirydd Windrush Cymru Elder, Pattio Flynn, noddwr Hanes Pobl Dduon RCC a Mr Isaacs, un o’u Hynafiaid Windrush. Bu farw’r cyfan ohonynt yn ystod blwyddyn y pandemig.

"Pan yr ydych mewn poen a’ch bod wedi colli cymaint, mae meddwl am rywun arall yn dod gydag ateb, hyd yn oed pan nad ydych yn barod i ddeffro ac wynebu’r dydd, yn gymaint o her. Mae pawb yn rhannu poen casgliadol ac anogaeth gasgliadol, sydd mor bwerus.

“Roedd pobl o gymaint o grefyddau a chredoau gwahanol yn dod ynghyd trwy’r grwpiau hyn. Mae’r pandemig yn rhyfel ar ddynoliaeth ac er mwyn i ni ddod trwyddi a goroesi, rhaid i ni uno a chefnogi ein gilydd. Brodyr a chwiorydd, du a gwyn, yn cefnogi ei gilydd”

Mae RCC yn un yn unig o’r nifer o sefydliadau arbennig sy’n derbyn cyfran fechan o’r £30m cyfan o gefnogaeth a godir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol pob wythnos, ac mae Uzo yn cyfaddef “y byddai’n amhosibl gwneud yr hyn a wnawn” heb yr arian. Mae effaith yr arian yn aruthrol.

"Mae gennym gofnodion hanesyddol erbyn hyn o’r cyfraniadau enfawr mae pobl Windrush wedi’i wneud. Heb Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, byddai ein bywydau yn wag iawn. Fe fyddai tawelwch iasol ac annaearol lle y gellid cael cariad, llawenydd, gweithgaredd, mynegiant, creadigrwydd ac ailadrodd cyfraniadau ein hynafiaid a chymaint o bobl eraill sydd wedi gwneud Cymru yn gymdeithas lewyrchus.

"Mae bywydau pobl wedi cael ei newid am byth oherwydd prosiectau megis Croesi Ffiniau. Gall y genhedlaeth nesaf siarad yn hyderus, fe fedrant siarad am bwy ydyn nhw a’u hunaniaeth, eu diwylliant a’u treftadaeth.”

Ers derbyn y newyddion y bydd hi’n cael ei chydnabod gan y Loteri Genedlaethol am ei gwaith dinesig, am gael ei thaflunio ar feini enwog Côr y Cewri, dywedodd Uzo ei bod dal ym “myd y breuddwydion”, gan ychwanegu: “Pan dderbyniais yr alwad, roeddwn yn gegrwth. Ni allwn siarad yn eglur. Dydy o ddim yn digwydd i bobl gyffredin fel fi!

"Mae’n dangos fod calonnau gan bobl a’u bod yn edrych am bobl sy’n gwasanaethu ar lefel llawr gwlad, sy’n gweithio’n ymarferol gyda phobl gyffredin eraill.” Diolch anferthol o waelod calon i’r sawl a wnaeth fy enwebu, rwyf ti a’m teulu mor werthfawrogol – mae hyn yn gwbl annisgwyl. Rwyf wedi fy syfrdanu!”