Ewch ati i gymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2025
Cynhelir Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol o ddydd Sadwrn 15 Mawrth hyd at ddydd Sul 23 Mawrth 2025!
Since The National Lottery’s first draw took place on 19 November 1994, more than £46 billion has been raised for good causes in the areas of arts, sport, film, heritage and community - that's over £30 million raised for good causes each week.
Thanks to National Lottery player support, more than 670,000 projects, just like yours, have received National Lottery funding.
As a recipient of National Lottery funding, you have had an enormous part in making a real difference to the people and places in your local community. We’re so pleased that you’ve been a part of our history. The National Lottery Open Week is a fantastic opportunity to thank National Lottery players who have helped to make your work possible as well as welcome visitors to your venue/ project.
Ers tynnu'r Loteri Genedlaethol am y tro cyntaf ar 19 Tachwedd 1994, mae mwy na £46 biliwn wedi cael ei godi ar gyfer achosion da ym meysydd y celfyddydau, chwaraeon, ffilm, treftadaeth a chymuned - mae hynny dros £30 miliwn sydd wedi cael ei godi tuag at achosion da pob wythnos.
Diolch i gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na 670,000 o brosiectau, yn union fel eich prosiect chi, wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol.
Fel prosiect sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol, rydych wedi cael rhan enfawr i'w chwarae wrth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a lleoedd yn eich cymuned leol. Rydym mor falch i chi fod yn rhan o'n hanes. Mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn gyfle gwych i ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi helpu i wneud eich gwaith yn bosibl, ynghyd â chroesawu ymwelwyr i'ch lleoliad/prosiect.
Beth yw Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol?
Mae'r syniad yn syml: mae unrhyw un sy'n ymweld â phrosiect a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol ac sy'n dangos tocyn y Loteri Genedlaethol, Gêm Ennill Sydyn (Instant Win), neu gerdyn crafu (ffisegol neu ddigidol) rhwng 18 a 26 Mawrth 2023 yn gallu derbyn cynnig arbennig.
Rydym eisiau bod yn eglur iawn mai chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy'n helpu prosiectau a sefydliadau gwych i barhau i wneud cymaint o wahaniaeth i bobl a chymunedau - ac mae Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol yn ffordd wych o ddweud #DiolchIChi.
Sut mae cynnig arbennig yn edrych?
O fynediad am ddim i rai o hoff amgueddfeydd a safleoedd treftadaeth y DU, i deithiau y tu cefn i'r llen mewn lleoliadau chwaraeon byd enwog, rhodd neu baned o de am ddim, neu neilltuo tocynnau i berfformiad theatr â'r holl docynnau wedi'u gwerthu, mae cymaint o ffyrdd i bawb gymryd rhan yn #DiolchIChi yn ystod Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol hon. Dyma gyfle gwych i amlygu a rhoi sylw i'r gwaith rydych chi'n ei wneud.
Angen mwy o ysbrydoliaeth? Rydym wedi llunio rhestr o'r mathau o bethau a wnaed mewn blynyddoedd a fu sy'n dangos sut y gallwch wneud i'r ymgyrch weithio i chi.
Pam ddylai fy sefydliad gymryd rhan?
Dyma eich cyfle i ddweud 'diolch yn fawr' i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am yr arian mae eich sefydliad wedi'i dderbyn ac i siarad am ba wahaniaeth mae'r gefnogaeth wedi'i wneud mewn ffordd sydd wirioneddol yn eglur ac uniongyrchol.
Dyma gyfle gwych hefyd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a'u croesawu'n ôl i'ch lleoliadau/prosiectau. Yn wir, o'r prosiectau a lenwodd ein harolwg cyfranogwyr 2022, dywedodd 90% y byddent yn cymryd rhan eto.
Yn 2022, roedd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi gallu cael mynediad at 500 o gynigion arbennig ar draws y DU, ac roedd bron 32,000 o chwaraewyr wedi llwyddo i wneud hyn*
O'r ymwelwyr fu'n cymryd rhan yn ein harolwg yn 2021, dywedodd tua 70% ohonynt nad oeddynt erioed wedi ymweld â'r lleoliad o'r blaen, neu nad oeddynt wedi gwneud hynny yn y ddwy flynedd ddiwethaf - dyna lawer o gefnogwyr newydd!
Byddwn hefyd yn sicrhau fod y cyhoedd yn cael gweld llawer o wybodaeth am yr ymgyrch mewn nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus cyffrous, cynnwys hysbysebion, a gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol. Bydd yr alwad i weithredu ar draws popeth a wnawn er mwyn i'r cyhoedd chwilio'r wefan rhestrau am gynigion arbennig sy'n digwydd yn agos atynt hwy, sy'n golygu y bydd cyfle i nifer enfawr o bobl weld eich cynnig arbennig.
Sut ydw i'n cofrestru?
Cofrestrwch nawr! Fe fyddwn yn rhestru eich cynnig arbennig ar ein tudalen ddigwyddiadau fel y gall aelodau'r cyhoedd chwilio am yr holl bethau anhygoel sy'n digwydd yn eu hardal.
Os oeddech wedi cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol 2022, bydd eich manylion yn parhau ar y safle - y cyfan sydd angen ei wneud yw mewngofnodi a diweddaru eich cynnig/cynigion arbennig oddi ar eich dangosfwrdd.
Os hoffech gymryd rhan, ond bod gennych gwestiynau o hyd, rydym wedi llunio taflen ag ychydig o gwestiynau cyson a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol.
Fel arall, mae croeso i chi gysylltu'n uniongyrchol â thankstoyou@lotterygoodcauses.org.uk ac fe fyddwn yn hapus i'ch helpu.
* Ffigyrau yn seiliedig ar y lleoliadau sydd wedi cadw gwybodaeth ar niferoedd ymwelwyr.
Cofrestrwch eich cynnig
Cliciwch yma i gofrestru eich cynnig arbennig a bod yn rhan o Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol gan ddweud #DiolchIChi i'r chwaraewyr.
Wedi cofrestru eich cynnig o flaen llaw. Mewngofnodwch yma.
Lawrlwythiadau
-
FAQs97 KB PDFFAQs
-
Inspiration and Examples62 KB PDFInspiration and Examples
-
Cancellation Protocol172 KB PDFCancellation Protocol
-
FAQs Welsh110 KB PDFFrequently asked questions_Welsh
-
Inspiration and Examples Welsh71 KB PDFIdeas for ways that your organisation can get involved_Welsh
-
Cancellation Protocol Welsh174 KB PDFCancellation Protocol for National Lottery Open Week 2025_Welsh